Tudalen:Cymru fu.djvu/399

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

neu well nag ef." "Rhyngof fi â Duw," ebai'r Iarlles, "pe na bai wrthun genyf peri dibenyddio un a fegais, mi a barwn dy ddihenyddio di am gyffelybu wrthyf beth mor annghywir â hyny; eithr dy ddiol di a wnaf.' "Da yw hyny genyf," ebai Luned, ebai Luned, nad oes gengt well rheswm tros dy waith yn gwneud hyny nag am fynegi o honof fi iti dy les lle nis medrit dy hun; a mefl iddi o honom ein dwy a ymgais gyntaf am heddwch, neu a wahoddo gyntaf y llall ati.

Ar hyny, Luned a aeth ymaith; a'r Iarlles a gyfododd ac a'i dilynodd at ddrws yr ystafell a phesychu yn uchel. A Luned a edrychodd drach ei chefn, a'r Iarlles a amneidiodd ar Luned, a daeth Luned drachefn at yr Iarlles. "Rhyngof fi a Duw," ebai'r Iarlles wrth Luned, "drwg yw dy anian; ac am mai fy lles I oeddit ti yn ei fynegi im', mynega pa ffordd f'ai hyny." "Mi a'i mynegaf," ebai hi, "ti a wyddost nad ellir cynal dy gyfoeth di namyn o filwriaeth ac arfau, ac am hyny cais yn ebrwydd a'u cynhalio." "Pa ffordd y gallaf i hyny ebai'r Iarlles. "Dywedaf," ebai Luned. "Oni elli di gynal y ffynon, ni elli di gynal dy gyfoeth; ni all neb gynal y ffynon, namyn un o deulu Arthur, a minau a af hyd i Lys Arthur, a mefl imi," ebai hi, "o deuaf oddiyno heb filwr a gadwo y ffynon yn gystal neu yn well na'r gwr a'i cedwis gynt.

"Anhawdd yw hyny," ebe'r Iarlles,—eithr dos a phrawf yr hyn a ddywedi."

Cychwyn a wnaeth Luned tan yr esgus o fyned i Lys Arthur, a daeth i'r llofft at Owain, ac yno y bu hi gydag Owain onid oedd yr amser iddi ddyfod o Lys Arthur. Yna hi a wisgodd am dani, a dyfod i ymweled a'r Iarlles. A llawen fu y Iarlles o'i gweled. "Chwedlau o Lys Arthur genyt?" ebai'r Iarlles. "Goreu chwedl genyf, arglwyddes," ebai hi, "caffael o honof fy neges. A pha bryd y myni di weled yr unben a ddaeth gyda mi?"

Tyred di ag ef am haner dydd y foru i ymweled â mi, a mi a baraf gynull y dref yn nghyd y pryd hwnw."

Luned a ddychwelodd adref. Am haner dydd dranoeth Owain a wsges am dano bais a swrcot (surcoat) a mantell o bali melyn, ac orffreis (band) lydan o eurlliw oedd ar ei fantell, a dwy esgid o gordwal brith am ei draed, a llun llew o aur ar eu claspiau. A dyfod a wnaethant hyd yn ystafell yr Iarlles.

A llawen fu yr Iarlles wrthynt; a hi a edrychodd yn graff ar Owain. "Luned," ebai hi, "nid oes olwg teithiwr ar y gwr hwn." Pa ddrwg yw hyny, arglwyddes?"