Tudalen:Cymru fu.djvu/400

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ebai Luned. "Rhyngof fi â Duw," ebai'r larlles, "ni ddwg un gŵr enaid fy arglwydd I o'i gorph namyu y gŵr hwn." "Goreu oll i ti, arglwyddes. canys pe na buasai ef drech na'th arglwydd di, ni ddygasai ef enaid dy ŵr. Nid ellir dim wrth hyny a aeth heibio, poed a fo." "Ewch chwi drachefn adref," ebai'r Iarlles, "a minau a gymeraf gynghor."

A thranoeth, hi a barodd ymgynull ei deiliaid oll i'r un lle. Yna hi a fynegodd iddynt fod yr iarlliaeth yn weddw, ac nad ellid ei chynal onid o rym march, ac arfau, a milwriaeth. "Minau a roddaf i chwi eich dewis ai un o honoch chwi a'm cymero I, ai caniatau a wnewch i mi gymeryd gŵr a gynhalio fy nghyfoeth o le arall." A hwynthwy a gawsant yn eu cynghor ganiatau iddi gymeryd gŵr o le arall. Yna y dug hithau Esgobion ac Archesgobion i wneuthur ei phriodas hi ag Owain. A gwŷr yr iarllaeth a roddasant warogaeth i Owain.

Ac Owain a gedwis y Ffynon trwy nerth cledd a gwaewffon. Ac fel hyn y cedwis efe hi: deuai yno farchog, Owain a'i dymchwelai, ac a'i gwerthai er ei lawn werth. A'r da hwnw a ranai Owain i'w farwniaid a'i farchogion, hyd nad oedd ŵr yn y byd gymaint ei gariad o fewn ei gyfoeth ag efo. A thair blynedd y bu efe felly.

Ac fel yr oedd Gwalchmai un diwrnod yn gorymdaith gyda'r ymherawdwr Arthur, edrych a wnaeth efe ar Arthur a'i weled yn drist gystuddiedig, yr hyn a ddoluriai Gwalchmai yn fawr—gweled Arthur yn y drych hwnw; ac efe a ddywedodd wrtho, "Arglwydd, pa beth a'th dristaodd di?" Ebai Arthur, "Hiraeth mawr y sydd arnaf am Owain, yr hwn a golles er's tair blynedd; ac o byddaf y bedwaredd flwyddyn heb ei weled, ni bydd fy enaid yn fy nghorph. Ac mi a wn mai trwy ymddiddan Cynon fab Clydno y collwyd Owain genym." "Ni raid i ti," ebai Gwalchmai, "gasglu dy luoedd yn nghyd er hyny, canys tydi a gwŷr dy dŷ a ellwch ddial Owain, os lladdwyd ef; neu ei ryddhau os ydyw yn ngharchar; ac os byw ydyw, ei ddwyn gyda thi." A chymeryd cynghor Gwalchmai a wnaed.

Yna Arthur a gwyr ei dŷ a baratoisant i fyned i ymofyn Owain; a'u rhif oedd tair mil heblaw y gwasanaethyddion. A Chynon ab Clydno oedd gyfarwyddwr iddynt. Ac Arthur a ddaeth hyd y Gaer y buasai Cynon ynddi. A phan ddaethant yno, yr oedd y gweision yn saethu yn yr un lle, a'r gŵr melyn gerllaw. A phan weles y gŵr melyn Arthur, cyfarch gwell, a'i wahodd; yntau a dderbyniodd