Tudalen:Cymru fu.djvu/401

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y gwahoddiad. I'r Gaer yr aethant, ac er cynifer oeddynt ni wyddid dim oddiwrthynt yn y Gaer gan mor fawr ydoedd. A'r morwynion a godasant i'w gwasanaethu; a bai a welsant ar bob gwasanaeth erioed oddieithr gwasanaeth y gwragedd hyn. Ac nid oedd waeth wasanaeth gweision y merch y nos hono nag a fyddai ar Arthur yn ei lys ei hun.

Bore dranoeth, Arthur a gychwynes oddiyno, a Chynon yn gyfarwyddwr iddo; a hwy a ddaethant i'r lle yr oedd y gŵr du. A rhyfeddach oedd y gŵr du dan Arthur nag y tybiasai ei fod; a rhyfeddach o lawer ei faint nag y dywedasid wrtho ef. Hyd i ben yr allt y daethant, ac i'r dyffryn hyd y pren glas; ac yno y gwelsant y Ffynon, a'r cawg, a'r llech. Yna y daeth Cai at Arthur ac a ddywedodd wrtho, "Arglwydd, mia wn achos y cerdded hwn oll; ac erfyniaf arnat adael i mi fwrw y dwfr ar y llech a derbyn y gofid cyntaf a ddel." Ac Arthur a ganiataodd iddo. Yna Cai a fwriodd cawgaid o ddwfr ar y llech, a daeth twrf; ac ar ol y twrf, gawod; ac ni chlywsant erioed dwrf a chawod o fath y rhai hyny. Wedi peidio o'r gawod, yr awyr a oleuodd; a phan edrychasant ar y pren nid oedd yr un ddalen arno. Yna adar a ddisgynasant ar y pren; a diau oedd ganddynt na chlywsant erioed gerdd cystal a chan yr adar hyny. Ar hyny, gwelent farchog ar farch purddu, a gwisg o bali purddu am dano; a Chai a gerddodd i'w gyfarfod, ac a baratoddi'w dderbyn. Yna gornestu; ac ni bu hir yr ornest na ddymchwelodd Cai. A'r marchog a babelloedd, ac Arthur a'i lu a babellasant, y nos hono. A bore dranoeth, pan gyfodasant, gwelent arwydd i ornestu ar waewffon y marchog, a daeth Cai at Arthur, ac a ddywedodd wrtho, "Arglwydd," ebai ef, trwy gam y'm dymchwelwyd I ddoe; ac a fydd da yn dy olwg adael imi fyned heddyw eto a gornestu a'r marchog?". "Gadawaf," ebai Arthur. Cai a gyfarfyddodd y marchog. Ac yn y lle, Cai a ddymchwelwyd, a'r marchog a'i tarawodd ef gyda phen ei waewffon yn ei dalcen, nes y torodd efe ei helm a'i benffestin (headpiece) a'r croen a'r cig hyd yr asgwrn—cyfled a phen y baladr. A chai a ddychwelodd drachefn at ei gymdeithion.

Wedi hyn, holl lu Arthur a aethant allau y naill ar ol llall i ornestu a'r marchog hyd nad oedd neb o honynt heb eu dymchwelyd ganddo oddieithr Arthur a Gwalchmai. Ac Arthur a ymbarotodd i'r ornest. "Och! arglwydd", ebai Gwalchmai, "gad imi fyned i ymladd â'r marchog yn nghyntaf." Arthur a ganiatodd iddo, ac efe a aeth.