Tudalen:Cymru fu.djvu/405

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn mha fyddin yr oedd yr Iarll ynddi. "Y fyddin y mae y pedwar ystondard melynion acw ynddi." ebai'r gweision, "dwy y sydd o'i flaen, a dwy o'i ol." Ie," ebai Owain, "ewch chwi yn ol, ac arhoswch fi wrth borth y Castell." A hwy a ddychwelasant; yntau a gerddodd rhagddo ar ei gyfer ar yr Iarll. Ac Owain a'i tynodd ef oddiar y cyfrwy, ac a drodd ben ei geffyl tua'r Castell; a thrwy ychydig o drafferth, dygodd ef at y porth lle yr oedd y ddau was. Ac i mewn yr aethant, ac Owain a wnaeth anrheg o hono i'r Iarlles, ac a ddywedodd, Wele dal i ti am yr iraid bendigaid."

A'r llu a babellasant o amgylch y castell, a'r Iarll a ddychwelodd i'r Iarlles ei dwy iarllaeth iddi drachefn, fel yr arbedid ei fywyd. Ac am ei ryddhad, efe a dalodd iddi haner ei gyfoeth ei hun, a'r cwbl o'r aur, a'i arian a'i dlysau, a gorfu roddi gwystlon heblaw hyny.

Ac ymaith y daeth Owain, er i'r Iarlles a'i holl ddeiliaid ei wahodd i aros; er hyny, efe a chwenychai yn hytrach gerdded rhagddo eithafoedd byd a diffaeth fynyddoedd. Ac fel yr oedd efe yn cerdded, efe a glywai ddisgrech fawr mewn coed. Ac efe a'i clywai ddwy waith a thair gwaith. Ac efe a ddaeth tua'r fan; a phan ddaeth, efe a welai glogwyn mawr yn nghanol y coed, a chraig lwyd oedd yn ystlys y clogwyn, a hollt oedd yn y graig, a sarph oedd yn yr hollt. A llew purddu oedd yn ymyl y graig: A phan geisiai y llew fyned oddiyno, y sarph a neidiai tuag ato i'w frathu. Ac Owain a ddadweiniodd ei gleddyf, ac a ddynesodd at y graig; ac fel yr oedd y sarph yn dyfod o'r graig, Owain a'i tarawodd a'r cleddrf, onid oedd yn ddau haner. Ac efe a sychodd ei gleddyf, ac a ddaeth i'w ffordd fel o'r blaen. Ac efe a welai y llew yn ei ganlyn, ac yn chwareu o'i gylch fel milgi a fagasai ef ei hun. A cherdded a wnaethont yn nghyd hyd hwyr y dydd. A phan ddaeth amser gan Owain i orphwys, efe a ddisgynodd oddiar ei farch, ac a'i gollyngodd i ddol goediog wastad; chyneu tân a wnaeth Owain. Ac erbyn iddo orphen cyneu y tân yr oedd y llew wedi casglu digon o danwydd iddo am deirnos. A diflanu a wnaeth y llew oddiwrtho. Yn mhen ychydig, dyma fe yn dychwelyd ac iwrch mawr godideg ganddo, ac a'i bwriodd gerbron Owain, ac a aeth am y tân ag ef.

Ac Owain a flingodd yr iwrch, ac a ddododd olwython o hono ar ferau o amgylch y tân. Y gweddill a roddodd efe i'r llew. Ac fel yr oedd Owain felly, efe a glywai och fawr eilwaith a thrydedd waith yn gyfagos iddo, ac Owain