Tudalen:Cymru fu.djvu/418

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hwnw, a phe buasent yn lladd hyny o foch oedd yn y byd, na buasai raid i'r ci wneud cymaint o stwr; ei fod wedi deffro eu plentyn bychan chwe mis oed a'i ddychrynu i ffitiau bron; "ac yr oeddym oll yn synu sut y gallech chwithau oddef y fath genaw trystfawr yn yr un ystafell a chwi." Ar hyn, minau a ddechreuais agor fy llygaid, a throi y peth yn fy meddwl, ac ystyried ai nid anmheuon ac ofnau oeddynt achosion fy holl anghaffael y noson cynt; ac ai nid y mochyn a feddylid wrth son am ei ladd o, ac ai nid pobl yn cadw trefn dda yn eu tŷ oeddynt pan yn grwgnach am i mi gymeryd Pero gyda fi i'r ystafell-wely. "Hwyrach, ar ol y cwbl," meddwn I, "fod y bobl yma y bobl lanaf, onestaf, trugarocaf (ond at gwn) yn holl dref Birmingham!" Daeth y gŵr yn mlaen o rywle tan chwerthin yn braf, a sylwi ei fod yn meddwl imi gredu fy mod wedi disgyn yn mysg lladron; ac addef ei fod ef unwaith yn credu yn ddiysgog mai dyn haner o'i hwyl oeddwn yn cymeryd y ci hwnw gyda fi i'r gwely; ond fod yr araith fygythus hono wedi haner ei ladd ef wrth iddo chwerthin am ei phen. Lled addefais inau fod genyf un tro feddyliau rhyfedd am y bobl y syrthiaswn i'w plith;— chwarddasom oll yn braf, ac ysgwydasom ddwylaw yn galonog; ac wedi i mi dd'od dipyn ataf fy hun, mi a eisteddais wrth gystal pryd o fwyd ag a ddarparwyd i borthmon erioed. Byth ar ol hyn, yn nhŷ Robert White(canys dyna oedd enw fy llettywr) y llettywn I yn Birmingham. Daeth y teulu yn dra hoff o Pero; ac o hoffi Pero, daethant i hoffi creaduriaid direswm eraill; a byddai y plant yn crechwenu, a'r wraig lygad-groes yn llygadloni, a llawenydd Robert White yn ymsionci, wrth ddyfodiad Pero a minau byth oddiar hyny; ac ni byddai neb mwy ei groesaw yno na Roli Rolant y Porthmon Cymreig a Phero ei gi brych. A dyna fy hanes I; a'r cnewyllyn ydyw hyn, "Nid yn y bore y mae barnu diwrnod teg," ac "Ni bydd doeth yn hir mewn llid."

"Chwedlau da dros ben, fel tae," ebai'r Cadeirydd, "ac addysg i llon'd nhw;" ac ymddangosai yr holl gwmni o'r un fain, ond yn unig Catrin Davies. Yr oedd hi yn meddwl fod sylw Roli ar lygaid croesion yn beth hollol groes i'w golwg hi. "Ti ddylset gofio, Roli, fod llygaid Nelw fy chwaer yn edrych naill ar draws y llall, a pheidio brifo fy nheimladau I fel ene; o ran hyny be ddisgwyliech chwi oddiwrth fustachiaid?" "Mi ddeudaf i chwi be na I, Catrin Davies, mi alwaf arnoch chwi i ddweyd y stori nesaf," ebai Roli tan chwerthin, "gael i chwi wneud yn