Tudalen:Cymru fu.djvu/425

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Arthur. Ni fedra i fawr Saesneg, be' ddywed e', Ned?
Angau. You have refused to take warning, but now you shall see.
Arthur. Wel, mae ganddo rhyw drwbwl 'rwy'n meddwl i mi.
Angau. Now, it is too late to prepare yourself.
Arthur. 'Rwy'n ofni mai baili, mewn difri', ydyw'r delff.
Angau. In a very short time, to Death you'll be debtor.
Arthur. Mi wariaf ddeg-punt cyn talaf i'r Doctor.
Angau. Thou shalt soon go to eternal life.
Arthur. Fyddai'n well i'r gwalch coeglyd gym'ryd hyny geiff
Angau. I'll stay no more to keep you company,
Arthur. Wel, garw ydyw'r Saeson am siarad yn sosi.
Angau.I have put my hand through thy heart and breast.
Arthur. Beth sy'a fyno'r rôg â fi mwy na'r rest?

O! mae drwg yn ei winedd, fe daflodd ei wenwyn,
'Rwy'n clywed fy hun yn crynu bob gronyn.

Ow! dyma fi yn awr yn fy rhyfyg annuwiol,
Wedi cael fy nharo farwol.

O! meddyliwch, ddynion, am eich hir gartrau;
Fe fu rhai o honoch chwi mewn clefyd fel finau,
Ac ar ol codi allan, yn pechu'n syth,
Heb deimlo byth mo'r pethau.

Felly, ffarwel i chwi, i gyd ar unwaith,
Chwi wyddoch nad yw hyn ond act neu chwar'yddiaeth;
Ond ni bydd gan ANGAU ond chwareu prudd,
Chwi welwch, ddydd marwolaeth.


ROBERT CYFFIN Y GWEHYDD.

Chwi a glywsoch am Syr Johu Salsbri o Leweni, neu Syr John y Bodiau, neu "Sanau glelsion;" canys adwaenid ef wrth y tri hyn; am ei fod yn ŵr boneddig mawr; am fod ganddo gymalau dwbl, a dwy fawd ar bob llaw; ac am fod ganddo ffansi ryfedd bob amser at hosanau o liw glas. Chwi a wyddoch hefyd fod dynion a chymalau dwbl yn gryfion iawn, ac felly Syr John. Yr oedd ef mor gryf, fel y byddai cryn benbleth yn mysg ei gymydogion beth mewn gwirionedd oedd ei nerth. A beth a wnaeth dau neu dri o fyddigions ond ceisio cael allan y dirgelwch. Arfer Syr John bob bore oedd rhoi tro heibio'r Eglwys Wen—heibio'r fynwent er mwyn dwyn ar gof iddo ei hun mai marwol oedd yntau; a beth wnaeth y byddigions hyn ond gosod ar ei lwybr hen geffyl, a sach yn llawn o dywod ar lawr fel pe buasai wedi syrthio oddiar ei gefn, a hogyn