Tudalen:Cymru fu.djvu/453

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ymlawenhau wrth edrych ar eu cysgod eu hun. Draw ao yma yr oedd aneddau prydferthaf, cgywrain gynllun a theg adeiladaeth; ac yn y lle, gwelent bob rhyw fath o lawenydd a gorhoenedd; digrifwch a mwyneidd-dra; ac mewn ambell i le, amlwg oedd fod yno berori melus gainc awen a cherdd, yn nghyda'r dawnsio mwyaf ystig. Megis yn y tonau mân gwrymiog yr oedd ad-sŵn yn aros, a phan oeddynt hwy wedi blino'n syllu, yr oedd rhyw sŵn yn eu dilyn nes y daethant i'r lan. Wedi myned adref y noson hono, breuddwydiodd y tri brawd yr un peth; sef fod y Marchog Du yn ymguddio mewn ogof yn nglan y môr. ac mai efe a lindagodd eu tad. Ar ol adrodd eu breuddwydion y naill wrth y llall wrth gymeryd eu boreubryd, penderfynwyd myned yno i'w ddal: ond pan ddaethant i'r ogof, o dan luwch llwyd o ewyn tonog. dihangodd, a gwelent ef yn myned ar hyd gwyneb y môr fel pe buasai ar weirglodd deg yn marchogaeth er mwyn digrifwch. Y diwrnod hwnwyr oedd eu chwiorydd yn croesi cainc o for wrth dd'od adref o'r ysgol, a phan oeddynt tua haner y ffordd cododd yn dymhestl ddychrynllyd, a suddodd y llestr a boddwyd y cwbl, a choeliai'r brodyr mai'r cenaw anhwylus y Marchog Du a wnaeth hyn o ddial arnynt hwy.

Tua'r adeg hon, cododd cynhwrf mawr yn mysg y pysgotwyr oherwydd rhyw for-neidr enbyd a welidi yn awr ac eilwaith yn ymdorchi am y creigiau gerllawyr ogofàu; ac nid oedd na byw na bywyd i Tegid a'i frodyr heb dd'od allan ryw ddiwrnod i'w lladd: allan yr aethant wedi ymarfogi, ond pan yn ymyl y fan lle gwelid hi fynychaf, mewn llais dwfn, gwaeddai rywun, "Cymer ofal niweidio dy chwaer." Synasant yn arw, ac aethant ymaith yn bur ddiswta. Y noson hono aeth Tegid ei hun i lan y môr ac at y lle y meddyliai yroedd y for-neidr, a dechreuodd alw arni erbyn ei henw, ond nid oedd neb yn ateb am yn hir. Pan bron a blino'n disgwyl, gwelai hi yn ymlusgo ato, ac yn adrodd iddo mai cosp arni oedd hyn, ac y byddai'n rhaid iddi barhau felly am beth amser wed'yn; cyfaddefodd pa beth a wnaeth, sef dianc ymaith gydag un na ddylasai. Dywedai iddi hi weled ei chwiorydd yn rhodio hefo'u mam, a bod eu tad i ddod i'r Ogof yn fuan: ar amrantiad dyma'r Marchog Du atynt, a thyma'i gleddyf yr hwn oedd yn disgleinio fel fflam dân, yn cael ei daflyd lawr yn noeth. Yna gydag ef torodd y for-neidr i fil neu fwy o ddarnau; ond ymiachai hi bob gafael, fel erbyn iddo fyned i un pen yr oedd y llall wedi d'où fel o'r blaen ac o'r diwedd ymglymodd y neidr am ei wddf, a brathodd