Tudalen:Cymru fu.djvu/454

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ef yn arswydus yn ei ddwyfron. Pan yn y miri hwn dyma'r Marchog Gwyn yno, ac heb seremoni rhedodd ei waywffon drwy gorph y Du a chwympodd ef yn y fan, ac ymaith a'r Gwyn ar darawiad a'r for-neidr yn dorch am ei wddf. Dihangodd Tegid am ei hoedl, ond nid cyn i ryw anghenfil erchyll ei weled a bygwth am ei fywyd ef. Yr oedd hwn yn anferthach na dim a welodd erioed: ac yn gallu byw yn y tir yr un fath ag yn y dwfr. Croch lefai, "Daw dial, dial daw," a Hir yr erys Duw heb daro, llwyr y dial pan y delo." Troai o gwmpas Tegid yn mhob ystum a dull. Weithiau byddai fel môr, ond medrai Tegid nofio: bryd arall fel mynydd o îa, ond gallai Tegid ei ddringo: ambell waith fel ffwrnes o ufel, ond ni fennai y tân ar Tegid: ond fynychaf fel cyd-grynhöad o beth bwystfil ac anifail ysglyfaethus a gwenwynig: eto Tegid oedd dawel a digynwrf; a phan oedd bron a rhoddi ei galon i lawr dyma ddyn ieuanc ato ac yn gafael yn ei fraich, ac yna'n dywedyd wrtho, "Nac ofna; cei nerth." Ar hyn dyma'r anghenfil yn dianc ymaith gan ysgrechian, a llu mawr o Farchogion mewn dillad ysplenydd ac ar feirch hyweddus yn prancio ac yn ymgodi, ac yn mysg y llu gwelai ei frodyr, ac yntau ei hun hefyd a aeth yn eu gosgordd i wlad ei fam. Ca'dd groesaw arbenig; a chyfarfu a phawb yno'n hapus, ond ei dad. Meddyliodd am fyned i chwilio am dano i'r byd uchod, a chafodd ganiatad ei daid i'r perwyl hwn. Daeth ef a'i fam a'i frodyr i chwilio am gorph Ifan Morgan, a chydag ef yr oedd Gwydion ab Don a Gwyn ab Nudd. Ond ar ol d'od at fedd Ifan Morgan ni fynai ei ddeffro, a pha beth a wnaeth ei ail fab, yr hwn a hoffai ei dad yn fawr, ond gofyn caniatad i orwedd ar ei fedd nes y dadebrai; ac felly y gwnaeth. Ac ar fedd Ifan Morgan yr erys Tegid hyd y dydd hwn, yn dyst o ffyddlondeb a serch mabaidd. Bydd ei fam yno'n d'od i'w ddyddanu, a'i frodyr hefyd yn anfon anrhegion iddo, ac yntau yn anfon ei roddion i Nefydd Naf Neifion ei daid; ac yn byw mewn heddwch a thawelwch a phawb hyd y gall, a dywedir fod ei chwaer Ceridwen, sef ei gyd-gyfaill ef, wedi d'od ato i fyw er's tro hir, a'u bod yn gwneyd y llawen yn llawenach, y tlws yn dlysach, a'r pur yn burach, ac yn cadw i fynu eu hurddas a'u hanrhydedd mewn heddwch a thangnef, heb doll na mall. Ac felly y terfyn teulu'r Fôr-forwyn.