Tudalen:Cymru fu.djvu/460

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gofynai y Crefftwr wed'yn, "Oes arnat ti ofn Robin?" 'Nac oes ddim rhyw lawer," meddai yntau, "ond y mae hi'n bur gâs, onid ydyw?" A chyda'r gair yna, dyna'r tân yn d'od i'r amlwg yn fwy o lawer nag o'r blaen, yn un lwmp coch, ac yn codi oddiar y ddaear yn araf deg ac yna yn gostwng drachefn. Codai wed'yn, a gostyngai, a'r ddau erbyn hyn yn sefyll fel mudanod. "Tyr'd Robin,' ebai'r Crefftwr, "tyr'd ato fo." Cychwynodd y ddau, ond ar amrantiad, dyma'r tân yn ymgodi i'r awyr ac yn chwrlio yn y wybr, a gwreichion yn ymdaenu i bob cwr o'r cae. Tyr'd i ffwrdd Robin anwyl," ebai'r Crefftwr, a'r tân erbyn hyn yn gylch mawr bron-bron uwch eu penau, ac ymaith a hwy nerth eu gwadnau. Rhedodd y ddau nes cyrhaedd tŷ y Crefftwr, a da oedd ganddynt yn eu calonau gael lle llonydd. Yr oedd gwraig y Crefftwr, druan o honi, wedi bod mewn llewygon dros ystod yr adeg yr oeddynt wedi bod allan, a da iawn oedd ganddi hithau gael un golwg ar ei gwr gwirion wedi d'od yn ol, ac yr oedd yntau yn llawer mwy gwrol yn ei golwg hi, nag oedd yn ngwydd y tân rhyfedd yn y cae. A thyna'r tal a gafodd y ddau yma wrth fyned allan y nos i chwilio am arian daear: ond os hyn fu eu tal hwy y mae eraill wedi cael llawer deng mynyd o chwerthin difyr ar gorn hyn. A dyma fel y bu pethau: Cenaw cyfrwysddrwg, ystumddrwg, a llawn direidi, oedd Robin, ac yr oedd ganddo ef bartner llawn cyn ddihired ag ef ei hun. Hudodd Robin y Crefftwr i chwilio am yr arian, ac yr oedd ei gyfaill Ifan yno'n barod hefo lantern a ffunen ganddo am dani,—ffunen fflam goch; ac felly, yr oedd y cyfryw nos, fel olwyn o dan! Yr oedd ganddo hefyd wialen bysgota, a pha beth a ddarfu ond rhwymo'r lantern with ei blaen, ac yna ei throi hi yn yr awyr; ac nid dyna'r cwbl, yr oedd ganddo fanwen wedi mwy na haner losgi, a thyna'r peth oedd yn gwreichioni mor ofnadwy: a gwyr pawb mai peth enbyd o wreichionllyd ydyw mawnen linynog, os bydd yn sech. A thyna ddiwedd y chwedl yna, yr hon a adroddir gan ugeiniau yn Môn heddyw.

Clywais hefyd pan yn las-lefnyn am Robert Gruffydd y Fotty a Wil Griffydd Ty Newydd. Yr oedd y ddau hyn wedi bod mewn Festri yn y Llan, ac wedi mwynhau eu hunain yn eithaf da,—os mwynhad ydyw yfed hyd na's gwyddent ragor rhwng llidiart a chlawdd ceryg. Rywle with dd'od adref daeth yn mhen Robert i ofyn i Wil dd'od hefog ef i'r Muriau, oblegyd dyna oedd enw'r lle, i chwilio am arian daear yn y Parc bach. Rywbryd cyn y bore,