Tudalen:Cymru fu.djvu/461

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

medrodd ddau gyrhaeddyd yno, a dywedai Robert y gwyddai ef o'r goreu yn mha le yr oedd y trysor; oblegyd pan ryw dro cynt yn pasio'r fan, gwelodd yno ddyn lled fychan a barf wen hir ganddo, ac wedi ymwisgo mewn mantell laes, ac heb ddim am ei ben,-yn cerdded yn ol ac yn mlaen, a gofynodd hwn i Robert a fedrai gadw cyfrinach: dywedodd yntau y medrai; ar hyn, meddai'r hen ŵr gwargam wrtho, Tyred di yma, wythnos i heno; mi gei di ran o'r trysor sydd yn y fan yma yn cael ei gadw ar dy gyfer; ond cofia di beidio son nac yngan un gair am y peth wrth neb." Aeth Robert adref y tro hwnwyn falch iawn o'r newydd, a chymerth ddigon o ofal i beidio crybwyll un gair am y peth yn nghorph yr wythnos hono, fel pe buasai ar ei lw. Ond aeth i'r dref ddydd Sadwrn, ac wrth fyned yno, yr oedd mor benderfynol ag y bu dyn erioed, na soniai wrth yr un creadur. Fodd bynag, wrth dd'od adref, tarawodd ar ddau neu dri o'i hen gyfeillion. ac aethant i dy tafarn oedd ar eu ffordd adref, ac yno yfodd Robert fwy na ddylasai. Ac fel y dywed y ddihareb, "Allwedd calon cwrw da," felly fu hi hefog yntau, druan; dechreuodd frolio'r arian daear oedd i dd'od iddo wrth ei gymdeithion, ac y byddai erbyn nos Sadwrn wed'yn yn globyn o wr boneddig. Aeth adref; ac yn hefyd dyma chwedl yr arian daear allan. Yr wythnos wed'y'n aeth i'r Parc bach, ond er ei ddirfawr ddychryn, yn lle gweled yr hen ŵr caredig a welodd y tro cynt, dyma globyn o Ellyll yno, a'i ben o gymaint a llestr dau gyfyniad, a chloben o geg fel camog trol, "a dannedd 'machgen I, fel danedd cribin doi; a fflamiau gleision yn dwad allan, 'machgen I, o'i geg a'i lygaid o. Dywedai hefyd fod ganddo dwr o aur yn ei ymyl, ac yn codi rhai hyny yn faweidiau! Nid oedd dim i'w wneud pan welodd hwnw ond ei choesio hi nerth yr esgyrn, ac adref yr aeth fel ci wedi tori ei gynffon y noson hono heb ddim dimeu goch y delyn o'r arian daear. Yr oedd arno flys o hyd, er hyny, am gael ei ran o'r trysor, ac yn edifarhau yn enbyd am iddo fod mor ffol a dweyd ei gyfrinach. Dywedai yn aml, mai " dweyd oedd y drwg onite y buasai ef yn ŵr bonheddig. Y noson dan sylw, sef y pryd yr aeth yno hefo'i frawd o'r Festri, yr oedd am wneud ail gynyg; cyrhaeddodd yno fel y crybwyllwyd, rywbryd cyn y bore; a phan oedd wedi cyrhaedd y lle y darfu iddo weled yr hen wr y tro cyntaf a'r Ellyll anferth yr eiltro, gwelai rywbeth gwyn yno. Dyma fo, Wil," gwaeddai, "Dyma fo." Daeth Wil yno rhag ei flaen, a dywedodd, "Dyma fo a deud y gwir,