Tudalen:Cymru fu.djvu/470

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mewn i'r ystafell, ond ni chauodd y drws. Eisteddodd yn y gadair ger hyny o dân oedd yno. Ond cyn cael hamdden i feddwl dim, dyma gorach o hen ŵr wrth ei ffon i mewn, a rhoes dro ar y llawr a dywedodd,—"Mi fum I yma'n byw." Yna diflanodd gan daro ei phon deirgwaith yn y ddor wrth fyned allan. Daeth un arall ar ei ol,— dyn canol oed, a golwg bruddglwyfus arno;—ei wallt yn llywethau hirion, a'i wyneb rheolaidd a phrydferth fel yn arwyddo dyn o feddwl a threiddgarwch digyffelyb. "Cefais inau'r lle gan fy nhad, a rhoddais ef i Dduw." Syn-safodd hwn yno ar ol siarad, ac wrth ymadael ymgrymodd yn foneddigaidd. Dywedodd y gŵr ieuanc yn awr wrtho'i hun, "Mi ddywedaf finau rywbeth trwy gymorth, wrth bwy bynag a ddaw yma nesaf." A chyda'r gair, dyma ryw dduwch mawr yn d'od drwy'r drws. Yn wir yr oedd yn ei lenwi, ac yr oedd rhywbeth yn ei ffurf yn debyg i ddyn: yr oedd ganddo lygaid fel dwy bellen werdd, a rhai hyny yn edrych drwy rywun. Ac anadlai arogl brwmstanaidd. Siglai'r tŷ fel rhedynen mewn gwynt yn niwedd y flwyddyn, a thybiai'r dyn druan y melid ef yn eisin sil heb ball nac aros. Ond cyn iddo lwyr lewygu gan ofn, dyma lais dwfn cras yn dywedyd wrtho, "Bu'r lle hwn yn eiddo i mi." Yna bu distawrwydd trwyadl am ronyn. "Y mae trysor allan: ond pwy a'i caiff." Yna corwyntoedd allan drwy'r drysau, nes oedd pob man yn crynu ac yn crensian. Yr oedd y gŵr ieuanc bron iawn a darfod am dano: ond yn y cyfamser dyma ddyn ieuanc glandeg a mwyn yn d'od i fynu drwy'r llawr, bron o dan ei draed. "Tyred allan ar frys," ebai, a gafaelodd yn y gŵr ieuanc. Aeth ag ef allan, a thrwy'r berllan, ac i lawr i ddyrysle dreiniog a mierïog. Tarodd ei law wrth fon coeden yno; safodd am fynyd heb chwifliad. Dyma'r lle: cloddia yma: cei drysor. Yna gafaelodd ynddo drachefn a chymerth ef i'r ochr bellaf i'r pysgodlyn; ac wedi cyrhaedd cwr y coed, safodd drachefn a dywedodd, "Agor a thiria, yna wrth fon y goeden cei olwg ar beth gwerth ei gael, ac yna ceir llonyddwch yn y plas." Yna fel olwyn o dân aeth ymaith gan adael y gŵr ieuanc yn y coed. Ni wyddai yn awr pa un ai yn nghwsg ai yn effro yr oedd, a dechreuai chwys oer ddyfod trosto, a chryndod iasaog ei feddianu. Nid oedd na siw na miw i'w glywed yn un man. Pob man a pheth mor ddistaw a'r bedd llonydd ei hun. Cododd yn mhen tipyn a cheisiodd gerdded, ond gollyngai ei aelodau ef. Ni ddalient mo hono ddim. Dwfn ocheneidiai yn ei galon, a gwaeai weled