Tudalen:Cymru fu.djvu/475

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ngorchestion Beirdd Cymru, yn llawn llythyr, ond er hyny y mae'n debyg mai dihareb gyffredin ydoedd o oes lawer hynach.

OGO'R GWR BLEW.¹

"Ac yn ngheunant afon Ierch² (yn Nanhwynen³) y mae ogo'r gwr blew; yr hwn gynt a ddaeth i'r Ty'n 'r ow all⁴ (ychydig islaw'r Ogo) lle yr ydoedd gwraig ar ei gwely, ac ei hun yn unig yn y tŷ, o ran fod rhai o'r teulu wedi myned i'r llan, (yr hwn hefyd oedd yn yr ymyl yno, fel y cewch glywed yn y màn,) i fedyddio'r plentyn, a'r lleill yn edrych ar ol rhyw beth allan; ond roedd y drws yn gaead, fe a estynodd ei law flewog dros y drws, ar fedr ei agor, pan welodd y wraig hyn hi a dorodd y llaw yn wrol â'r fwyall, a phan ddaeth y bobl adref nhw a olrhanasant y gwaed hyd yr eira tan na ddaethant i'r ogo a elwir hyd heddyw "ogo'r gwr blew." Yn agos yma yn y bu lan⁵ yn yr hen amser; mae sylfaen'r eglwys i'w gweled eto; ag a elwir y Tyddyn oddiwrth hyny Hafod y llan. Yn ymyl Llan Trawsfynydd y mae Tomon y mûr, neu lys Ednowen Bendew,⁶ un o 15 llwyth Gwynedd. Yn nglan Llyn Dinas y mae 3 bedd⁷ a elwir:—Bedde'r tri llanc, a 3 thri gŵr, a 3 milwr, (sef milwyr Arthur,) a bedde'r gwyr hirion: a 2 fedd a elwir Bedd y Crythor a'i wâs, neu fedd y Crythor du a'i wàs. A rhwng y Dinas a'r llyn y mae Bedd Sr. Owen y Mhaxen,⁸ yr hwn a fu yn ymladd a'r cawr a phellenau dûr, mae pannylau yn y ddaear lle'r oedd pob un yn sefyll i'w gweled eto, mae rhai eraill yn dywedyd mai ymladd â saethau yr oeddynt, a'r pannylau a welir heddyw yno cedd lle darfu iddynt gloddio i amddiffyn eu hunain, ond ni escorodd yr un mo'r tro. Pan welodd y Marchog nad oedd dim gobaith iddo fyw fawr hwy; fe ofynwyd iddo p'le y myneu gael ei gladdu, fe archodd saethu saeth i'r awyr, a lle y disgynai hi y gwnaent ei fedd ef yno.

Un o filwyr Arthur a'i enw March⁹ (ne Parch) ymherchion oedd hyna Castellmarch yn Llŷn; yr hwn oedd ganddo glustiau march (tebyg i Midas), a rhag i neb wybod hyny'r oedd ef yn lladd pawb ar a oedd yn ei geisio i dori ei farf, rhag na fedrai ef beidio a rhoi'r gair allan a lle'r oedd ef yn claddu nhw y tyfodd cyrs, a thorodd rhywun un o'r rhai'n i wneuthur pîb, ni chanai'r bîb ddim ond "Mae clustiau march i Barch y Meirchion;" pan glybu'r milwr hyn braidd na buasai'n lladd y dyn gwirion oddiwrth hyny, oni bai iddo ef ei hun fethu a gwneuthur