Tudalen:Cymru fu.djvu/480

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ynte, efallai, mai Ednywain a bioedd y lle hwn, oblegyd yr oedd yn Arlwydd cyfoeth mawr. Yr oeddynt eu deuoedd, sef y Pendew, ac ab Bradwen, yn perthyn i bymtheg llwyth Gwynedd.

7.—Y mae tri bedd, &c.—Nid gwaith hawdd ydyw cael allan beddau hyn yn awr. Ar ol dyfal chwilio a chlustfeinio fy ngoreu glas, nid oes dim byd o werth i'w gael yma. Y mae'n wir fod ar y lleindir sydd islaw Dinas Emrys ryw wrymiau. Ac hefyd y mae ar fin y llyn, wrth geg yr afon, ryw ddau neu dri o dwmpathau neu domenydd bychain. Gwn am fedd y Crythor Du, y mae ef yn uwch i fynu. Marw o oerfel a wnaeth ef a'i gydymaith wrth dd'od i Wylmabsant Beddgelert, ac nid oes rhyw lawer er hynny Tybiaf mai yr un rhai a olygir yma a'r dewiniaid. Deuddeg oedd nifer y gwyr hyny, a deuddeg sydd yma yn cael eu coffhau; ond feallai mai amryfus ddywediad ydyw, ac mai yr un lle a olygir. Oblegyd yr ydys eisoes wedi canfod amryw gamgymeriadau parthyddol yn yr Erthyglau o eiddo'r hybarch Edward Llwyd, megis dywedyd fod Cricerth gerllaw Aber y Traeth mawr, tra y mae amryw filltiroedd dybryd rhyngddynt. Sonir mai Milwyr Arthur oeddynt. Milwyr y Pedragon hwn yr ystyrid pob marchog yn y cyn—amseroedd, a thybia ei fod ef yn fyw yn mhen canrifoedd ar ol ei gladdu.

8.—Bedd Sr Owen Mhaxen.—Cymerodd ymgyrch ffyrnigwyllt le cyd—rhwng Owen ab Maxen mab Elen Lueddog, ac Eurnach Gawr, wrth ymyl Dinas Ffaräon. Lladdasant y naill y llall. A dywed traddodiad fod gwaed y ddau ar geryg y fan yn gof—arwydd parhaus o'r ymladd creulon a gymerth le rhyngddynt. Y mae bedd Owen ab Maxen ar y weirglodd yn dwmpath i'w weled, ac yn wir y mae'r pannylau" yno hefyd, a dywedir mai ôl traed dau gawr ydynt.

9.—March.—Meirchion oedd un o farchogion Arthur; cybydd ofnadwy oedd, ac iddo yr oedd clustiau march, a thyna paham y galwyd ef felly. Pa beth bynag y cyffyrddai ei law arno tröai yn aur. Y mae lle o'r enw Castell March, yn Lleyn, meddir wedi bod unwaith yn anedd iddo, a bernir mai efe a'i sylfaenodd. Digon tebyg mai un o wyr Celyddon ydoedd, a chyfoesai a Gwallawg ab Llênawg ac eraill, a ddaethanti lawr o'r Gogledd ac ymsefydlasant yma a thraw ar hyd arfordir Arfon. Yr oedd iddo nai o'r enw Trystan ab Tallwch, neu Trystan ail March, oblegyd yr un oeddynt. Digwyddodd iddo ef, sef Trystan, syrthio "dair llath dros