Tudalen:Cymru fu.djvu/72

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

teithiasant tuag yno, o'r braidd y gallasant gyrhaedd ato erbyn hwyr y trydydd dydd. A cherllaw y castell, gwelent ddiadell ddirif-ddiderfyn a dibendraw o ddefaid. Ac ar dwyn uchel gerllaw, yr oedd bugail yn eu harail. Am dano yr oedd cwrlid o grwyn, ac wrth ei ochr waedgi blewog, mwy na'r march mwyaf naw gauaf oed. Ni chollodd efe erioed oen chwaithach llwdn; ac nid esgeulusodd erioed gyfleusdra i wneud niwaid. Yr holl goed a thwmpathau ar y gwastadtir a losgodd efe ag anadl ei enau.

Yna dyedodd Cai, "Gwrhyr Gwastawd leithoedd, dos di i gyfarch y gŵr acw." Ebaiyntau, "Cai, nid addewais i fyned gam pellach na thithau." "Yna, awn oll gyda'n gilydd." Ebai Menw ab Teirgwaedd, "Nac ofnwch fyned, canys mi a daflaf hud dros y ci fel nas niweidio un gwr." Aethant i fynu at y bugail, a dywedasant wrtho, "Hardd wyt,! fugail." "Na bo chwi byth harddach nag wyf fi." "Ai tydi yw y penaeth?" "Nid myfi ydyw." "Eiddo pwy ydynt y defaid hyn, ac i bwy y perthyn y castell acw?" "Meredic awyr uwch,[1] gŵyr , pawb tros yr holl fyd mai eiddo Yspaddaden Pencawr ydyw." "Pwy wyt tithau?" " Cystenyn ab Dyfnedic y'm gelwir, â'm priod yr ymlygres fy mrawd, Yspaddaden Pencawr. A phwy ydych chwithau?" "Cenhadau Arthur ydym ni yn erchi Olwen, ferch Yspadden Pencawr." " Ha! wyr, trugaredd nef fo arnoch, na erchwch hyny, er mwyn yr holl fyd, canys ni ddychwelodd neb yn fyw oddiyma a arches yr arch hono." Yna cyfododd y bugail, a Chilhwch a roddodd fodrwy aur iddo. Ceisiodd ei rhoddi am ei fys, eithr rhy fach ydoedd, a dododd hi am fys ei faneg. Pan ddaeth adref, rhoddodd hi i'w briod i'w chadw. Ebai hi wrth y gwr, "O b'le daeth y fodrwy hon? Canys nid dy arfer di i'w cael anrhegion." "Myned i'r môr a wnaethum i ymofyn pysg, a gwelais gelain yn cael ei dwyn gan y tônau, ac ni welais erioed gelain decach; ac oddiar fys hono y cymerais y fodrwy hon." "Ha! ŵr, a ganiatâ'r mor i'w feirwon wisgo tlysau? dangos i mi y gelain." " Ha! wraig, y sawl piau y gelain ti a'i gweli yma heno." "Pwy yw hwnw?" ebai y wraig. "Cilhwch ab Cilydd ab Celyddon Wledig, yr hwn a ddaeth i geisio Olwen yn wraig." A chymysgedig oedd ei theimladau pan glywodd hi hyn — llawen ydoedd oblegyd fod ei nhai fab chwaer ar fedr dyfod ati, a thrist am nas gwelsai neb yn dychwelyd o geisio Olwen a'i einioes ganddo.

  1. Geiriau o ddiystyrwch at anwybodaeth.— E. Llwyd