Tudalen:Cymru fu.djvu/93

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

benthyg enw yn Ngwynedd. Bu hawdd ymddyddan unwaith âg ef; nid felly y mae yn awr. Mi a ddysgaf i chwi bwnc o addysg, ni wyddoch chwi fawr byd yn hyn am dano. Nid iawn i fardd hoffi. chwaithach ymarfer, â chelwydd; mae defodau yr hen feirdd yn gwahardd y peth hyn. yr ydych chwi chwyddedig iawn eich llafar: ond nid unwaith na dwywaith y gwelais i lawer peth, a dybygid ei fod yn fawr, yn troi o'r diwedd i maes yn o lliprynaidd a salw. — Sion bach! ni flinaf fy mhen mwyach o'th blegyd: bydd wych, a chais fod yn gall — ryw bryd.


Meurig Dafydd.

GLYNDWR A'I FARDD.

Pan ddienyddwyd Dafydd ab Grufuydd yn yr Amwythig, cymerth y cigydd ei galon ac a'i taflodd i'r tân, a neidiodd y galon o'r tân ac a darawodd y cigydd yn ei lygad, ac a dynodd ei lygad ymaith.

Harri IV., brenin Lloegr a ysgrifenodd at Arglwydd Grey o Riuthin, yn erchi iddo ef trwy ryw ystryw fradychu Owain Glyndwr. Yna gyrodd Arglwydd Grey at Owain i'w hysbysu y byddai yn ciniawa gydag ef y dydd a'r dydd. Atebodd Owain y byddai croesaw iddo, o ni ddygai gydag ef uwchlaw dengwr ar ugain. Daeth yr arglwydd yn yr amser penodedig, ac ychydig o gydymdeithion gydag ef; a gallu mawr arfog yn dyfod yn ddirgel ar ei ol. Pan ddaeth amser ciniawa, gosododd Owain osgordd ar ben bryn i wylio tra y byddai ef ar giniaw. Pan oedd Owain ar ganol ciniaw, yr osgordd a welent lonaid y ddôl o wŷr arfog. a dywedasant with Iolo Goch, bardd Owain, er mwyn iddo ef fyned a rhybuddio eu harglwydd o'i berygl. Aeth Iolo i mewn ar frys i'r palas, a chanodd ar ddameg yr englyn rhybudd yma ar osteg, rag i Grey dybied fod twyll ynddo; canys er ei fod yn deall traethawd Cymreig, nid oedd efe yn deall ein mydr ni: —

Coffa ben, a llen, a llywenig —
A las nos Nadolig
Coffa golwyth Amwythig,
O'r tan a fwriodd naid dig.

Deallodd Owain y ddameg, a defnyddiodd ei draed i arbed ei ben.