Tudalen:Cymru fu.djvu/94

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

FFOWC FFITSWAREEN.— Damheg

Yn nghastell Ffowc Ffitswarren, a elwid hefyd Ffowc o Forganwg, a Ffowc, is-iarll Caerdydd, yr oedd y tŵr uwchaf yn holl ynys Prydain. Fel yr oedd Syr Ffowc un Sulgwyn yn adrodd wrth nifer o bendefigion a marchogion am y caledi a ddyoddefodd wrth ymladd â'i elynion a'r Saraseniaid, ac am y modd y gorchfygodd hwynt oll, ebai un Marchog, "Gallaswn inau wneud hyny yn hawdd." "A minau," ebai un arall; "a minau," ebai y Dall; a phob un yn bostio ei fod cystal a Ffowc ei hunan. Ebai yntau, "Peth arall a wnaethum, ond rhaid addef fod hyny yn llai rhyfedd na fy nghampau eraill." "Beth ydoedd?" ebynt oll ar unwaith. Ebai Ffowc, "Neidiais i ben fy nghastell, a rhaid i chwi oll gyfaddef mai hwnw yw yr uwchaf yn y byd." "Gwir a ddywedi o barth uwchder dy gastell," ebynt hwythau, " ond am neidio i'w ben ni wna dim ond gweled yr orchest â'n llygaid ein hunain ein hargyhoeddi o wirionedd hyny." "Da iawn, yn wir," ebai Syr Ffowc, " ac os caf eich cyfeillach i giniawa ryw ddiwrnod yn fy nghastell, cewch fy ngweled yn neidio i'w ben."Pawb a addunedasant fyned, penodwyd y diwrnod. a phan ddaeth, wedi bwyta ac yfed o honynt eu gwala o'r bwyd a'r ddiod oraf. "Ynawr," ebai Syr Ffowc, "am neidio i ben tŵr y castell: dilynwch fi, modd y gweloch yr orchest yn cael ei chyflawni â'ch llygaid eich hunain." Daethant oll hyd at waelod y grisiau; a neidiodd Syr Ffowc ar y ris gyntaf, ac oddiar hono i'r ail ris, ac o hono i'r drydedd, ac yn yr un modd o ris i ris, nes y cyrhaedd- odd ben uwchaf y tŵr. "O!" ebynt hwythau, "gallasem ninau yn hawdd neidio i ben y castell yn y dull yna." "Gwy'ddwn y gallasech, a gallwch yn hawdd wedi fy ngweled i yn gwneud hyny, a'r moddd y gwnaethum. Diffyg gwybodaeth oedd yr achos nas gallasech cyn hyny, neu o'r hyn lleiaf ni ddaeth y dull y gallasech ei wneuthur erioed i'ch meddyliau."

Yr hwn y mae deall ganddo, ystyried y Ddameg, a chymered addysg. O ris i ris y mae cyrhaedd tŵr gwybodaeth ac ucheledd celf, ac nid oes dim mor ynfyd a meddwl eu cyrhaedd ar un naid.