cwbl i drobwll llydan islaw. A'r gamp ydoedd dal blaen y cwch yn gywir ar gefn y grib bob cam o'r ffordd.
Gelwid y grib ddwfr hynod hon yn "Fwng y Ceffyl Gwyn", ac nid rhyfedd bod llawer ar y daith i Klondyke wedi dewis dadlwytho eu cychod i'w cludo hwy a'u llwythi gyda llawer o ludded dros y tir, i'w llwytho drachefn wrth dawelach torlan, yn hytrach na cheisio eu marchogaeth ar y grib wen.
Mynnai Syd er popeth gymryd llwybr y Mwng. Gwir y byddai i'r cwrs hwnnw, os yn llwyddiannus, arbed tri diwrnod o'r daith heb sôn am y llafur enfawr o gludo'r cwch a'i lwyth dros y creigiau. Ond yr anturiaeth noeth a apeliai ato ef. Felly at y Mwng yr aethpwyd.
Cymerodd pob un ei le yn ddistaw a rhwyfwyd at y man lle y dechreuai'r dwfr ymferwi. Ond naill ai o ddiffyg rhwyfo gyda chydbwysedd ar y ddeutu, neu o ddiffyg llywio'n gywrain gan Syd, methwyd taro ar y Mwng yn deg yn ei ganol. Gyda nerth cawr rhuthrwyd y cwch i'r naill ochr gan dynfa'r croesrediant, a dim ond o'r braidd y dihangodd rhag cael ei ddymchwelyd. Ar y foment enbyd honno taflodd Daff ei holl bwysau yn erbyn y rhan o'r cwch a godai allan o'r dwfr, a thrwy hynny unionwyd ac achubwyd y llestr.
Ond nid oedd y perigl eto drosodd, ac onibai mai i fan lle y tyfai nifer o fangoed y bwriwyd hwynt, drylliesid eu cwch yn erbyn y graig gerllaw. Edrychodd y tri ar ei gilydd am ennyd heb siarad dim. Ond pan ddechreuodd Jack ddadlwytho'r cwch, deisyfodd Syd arno atal ei law a rhoi un cynnig arni drachefn.
"Y chwi o bawb i feddwl am roi fyny, Jack. Dewch! Dewch! Mae rhywbeth ynof yn gwarantu mai llwyddiannus fyddwn y tro nesaf. Dewch! Fechgyn! wir!—un cynnig eto! Ac os methwn y tro hwn, mi gariaf yr hen lwyth y felltith yma i lawr dros y creigiau fy hunan. Gwnaf, bob pwys ohono. Gwnaf, wir! Dewch ymlaen !"