Tudalen:Daffr Owen.pdf/133

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gyrhaeddodd Lyn Bennett. Yno cyflogwyd ef i dorri coed gan rai a oedd yn rhy ddiweddar i nofio'r afon y tymor hwnnw; ond ymhen pythefnos bu mor ffodus â chyfarfod â'i fab ei hun, White Cloud, ar lan y llyn. Yr oedd y mab yn berchennog ar sled ac wyth ci, ac yn y sled honno y deuthant ill dau dros yr ia a'r eira i ddinas Dawson ddeuddydd yn ôl.

O holi o Ddaff ef am ei ddyfodol, dywedodd y gwyddai ei fab am gilfach neilltuol o gyfoethog tu hwnt i'r Forks, a'i fod yn meddwl mynd gydag ef i'r lle fore trannoeth yn y sled.

Deisyfodd Daff arno gael ymuno â hwy, a dangosodd yr hen ŵr ei foddlonrwydd ar unwaith; ond y carai siarad â'i fab yn gyntaf. Trefnodd i gyfarfod â Daff ganol dydd yr un diwrnod, ac yna y caffai ateb terfynol. Pan ddaeth yr amser i ben, nid Red Snake yn unig a ddaeth i'w gyfarfod, ond y mab hefyd; ac yno ar ganol yr heol gwnaed y cytundeb rhwng y tri heb ddim i'w gadarnhau ond y teimlad o ddiolchgarwch am ddyngarwch y dyn gwyn ar y Chilcoot.

Y noson honno adroddodd Daff yr holl helynt wrth ei gyfeillion yn y caban, a chyn dydd bore drannoeth yr oedd y cŵn a'r sled yn aros i'r Cymro wrth y drws. Gan addo yr ymwelai ef â hwynt drachefn cyn pen pum wythnos cefnodd Daff ar ei gyfeillion i wynebu'r anialwch heb neb ond dau Indiad yn gwmni.

"Marchons! mush there!" gwaeddai White Cloud ar y cŵn gan glecian ei whip, ac ymhen awr yr oeddynt ymhell ar eu ffordd. Nid peth anghyffredin oedd gweld tri gŵr yn gyrru i gyfeiriad y Forks unrhyw amser, felly ni sylwodd neb arnynt. Barnwyd yn ddoeth, fodd bynnag, wedi cyrraedd ohonynt y Forks, i'r dyn gwyn fynd yn ei flaen ar y trail, tra oedai yr Indiaid yn y pentre am awr neu ddwy, cyn ei ddal a'i godi yn nes ymlaen.

Pobl effro iawn i bob maes newydd ydoedd trigolion gwlad yr aur, a chryn gamp, wedi darganfod o rywun le addawol am y mwyn, oedd ei gadw yng nghudd oddiwrth eraill.