Tudalen:Daffr Owen.pdf/138

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Wrth ei agwedd deallodd y ddau gyfaill fod rhywbeth allan o'r cyffredin ar Ddaff. Credent ei fod wedi ei daro'n glaf, ond o'i holi fe amneidiodd iddynt oll fynd gydag ef i'r ystafell arall, a chyn eistedd o neb ohonynt yno, torrodd Daff allan yn gynhyrfus,—"Fechgyn, fechgyn! Hen gydnabod i mi yw ef. Gweithiai yn y talcen glo nesa ataf yn y lofa yng Nghymru. Pŵr Jim! dafad golledig os bu un erioed—plentyn aelwyd y gweinidog ei hun!"

Plygodd y cwmni eu pennau mewn cydymdeimlad dwfn am beth amser, hyd nes i guro sydyn ac agor brysiog o'r drws eu dwyn yn ôl i bethau cyffredin bywyd yr eilwaith. Y meddyg oedd yno wedi ei anfon amdano'n arbennig o weld y claf yn waeth, gan Syd y prynhawn hwnnw.

"A son of the manse, did you say?" eb yntau. "Poor boy! I am sorry for him. You see he is lapsing into unconsciousness again. There is really nothing to do but to put an occasional drop of brandy to his lips. He may last some days, or he may go any minute. I can see that he is in good hands. Good evening, gentlemen." Y noson honno trefnodd Daff i wylio'r claf wrtho'i hun, ac wedi bod yn ymyl y gwely am awr neu ddwy, dechreuodd feddwl beth a wnelai o digwyddai i Jim ddod ato'i hun rywbryd yn y nos. Oddiar ei brofiad ag ef ar yr heol i Dreherbert 'slawer dydd, ni wnâi hi mo'r tro i sôn am bregethwr o leiaf. Ac os nad pregethwr, nid geiriau pregethwr ychwaith, nac adnod, nac emyn, na dim o'r cyfryw. Ac yn sicr nid iawn fyddai sôn am yr hen fywyd. Beth o ddifrif a weddai iddo ei ddywedyd wrtho, rhag marw ohono fel ci? Yr oedd mewn penbleth na freuddwydiasai erioed amdano.

Yn oriau mân y bore, hepiodd Daff ei hun am ychydig yn y gadair o flaen y stôf, a breuddwydiodd yn ei gwsg glywed ohono ei fam yn canu "Hen Ffon fy Nain," fel y clywsai ef hi ganwaith yn y dyddiau gynt. Deffrodd yn sydyn, a gwelodd fod Jim wedi symud rhyw gymaint yn ei wely. Cododd i esmwytho'r glustog, a threfnu'r dillad gwely ychydig yn daclusach.