Tudalen:Daffr Owen.pdf/40

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Wel, dyma fe i ti, ac os nag wy i'n camsyniad, bachan bach nêt hefyd."

"O, 'wara teg, syr, wir! Rwy' i wedi câl gormod o'r jaci-newydd-ddwads 'ma, otw wir. 'Dyw a'n gwypod dim, fe fentra!"

Paid 'wilia felna, bachan, dyn o dy oetran di!" ebe'r arolygydd drachefn. "Dera lawr i'r hewl gyda fi gam, i fi gâl gair ne' ddou o reswm gyda ti!" Hynny a wnaed, ac ymhen rhyw ddeng munud dyma'r glowr byr yn dychwelyd ac yn dywedyd wrth Ddaff,"—"Nawr, Tom Thumb, dera mlân. Wyt ti'n perthyn i'r boss, gwed?"

'Dwy'i ddim yn perthyn i'r boss, nac i Tom Thumb chwaith, ond fe ddwa i mlân gyda chi, os yw e' (gan gyfeirio at y pen arolygydd) am i fi neud hynny.'

"Alright, boy! Paid cwnnu dy wrych! Fe ewn lan."

I fyny yr aeth y ddau nes dod i agoriad yn y ddaear, tebig i adwy twnnel, gyda ffordd haearn gul ar ei lawr, a rhaffau, ddwy neu dair, yn hongian hyd ochrau'r ffordd oedd yn arwain i'r tywyllwch. Estynnwyd bob o lusern i'r ddau gan rywun yn ymyl, ac aethant ochr yn ochr gan ddilyn y ffordd haearn yn y blaen.

Deallodd Daff ei fod wedi ei anfon i'r lefel oherwydd iddo ddywedyd wrth yr arolygydd nad oedd yn hoffi'r pwll. Fe glywodd hefyd farn yr un gŵr amdano fel bachan bach nêt," a phenderfynodd haeddu'r ganmoliaeth yn llawn.

Cyn dechreu un math ar waith, trodd ei gydymaith ato gan ddywedyd,—"Gad i fi weld, beth yw d'enw di? Rwy'n diall ma' nid Tom Thumb yw a, ta' beth!" Dafydd Owen yw f'enw i, ond gartre 'roen nhw yn 'y ngalw i'n Daff, yn lle Dafydd."

"Enw tip—top sy gen't ti. Dafydd yw'm enw inna hefyd. Dafydd Young, sgylwch chi fod yn dda, ond ma' rhai yn 'y ngalw inna'n Dai Cantwr. Wel, fe allsa' fod yn wath. Dau Ddafydd ynghyd, peth gora'n y byd. Ond nid Dai Cantwr y Beca,' cofia! ac fel rown i'n gweud—fe allsa' fod yn wath. Gallsa' o dipyn, he'd! Ma' bachan yn y talcan nesa'