Tudalen:Daffr Owen.pdf/47

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

man hyn, a lêdar piwr iawn yw William Tomos, he'd, O ran hynny. Ond perthyn i barti'r Pentra wy' i, ti'n gweld, a rhaid dangos y colours o flân y tacla', ne' f'asa' dim shwd beth a byw gyda nhw. Beth 'wetas i o'r blân? Never say die!" on'd iefa? Fe fasa'n well na phumpunt gen i 'maeddu nhw ym Mhenybont, b'asa'n wir, taw dim ond am 'u gweld nhw mor cock sure! Ond 'nawr, D.O., at y cogyn yna, machan i!"

Dechreuwyd gweithio fel arfer, ergyd ac ergyd dibaid y glowr yn y talcen, mwm rhaff yn chwyrnu ar ben y deep, a llais soniarus yr halier yn cymysgu cân, serch neu arall, â galwadau'r heol.

Dyna un o nhw 'nawr !" ebe'r Cantwr pan neshaodd halier neilltuol at eu talcen. "Un o'r gora' oh nhw he'd, ond 'i fod yn lled ffond o boeni tipyn arna' i ambell waith." Ac megis ateb i'r disgrifiad clywai Daff ar y foment

We have bro-ken down evry altar of the
gods so worth-less and vain,

ond heb betruso am eiliad wele'r Cantwr gan bwyso ar ei fandril yn ei ateb lawn mor soniarus a chellweirus ag yntau,—

In our career never will we falter