Tudalen:Daffr Owen.pdf/67

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

XX. LERPWL

BUAN y gadawyd Casnewydd ar ôl, ac y trowyd i fyny i dlysni gwlad Gwent, nid amgen na thrwy Gaerlleon a'r Fenni. Beth pe bai marchogion Arthur, Rhufeiniaid a Normaniaid Gobannium, neu yn wir hen Gymreig— yddion y Fenni—Carnhuanawc, Thomas Stephens, Jane Williams ac Ieuan Ddu—oll yn codi eu pennau i weld y Groesgad newydd hon yn mynd heibio i'w drysau Croesgad Heddwch, Croesgad Cerdd. Cymru Fechan yn galw ei chantorion glewaf, o'r pyllau glo a'r chwarel, i gystadlu á phennaf datgeiniaid y Gorllewin am lawryf Cân?

Nid oedd y glewion eu hunain yn meddwl dim am y pethau hyn, ond tynnodd brasdir a cheinder Sir Henffordd eu sylw'n fawr. Nid oedd y mwyafrif o'r côr erioed cyn y diwrnod hwn wedi gweld hopys yn tyfu, a golygfa hardd dros ben ydoedd hi hefyd.

Brysiwyd trwy Lwydlo ac Amwythig oedd â'u traddodiad anhapus yn eu hanes â Chymru, ond teimlwyd yn gartrefol drachefn yng ngolwg pyllau glo Rhiwabon, a'r acen Gymraeg a oedd i'w chlywed yno.

"Etrach, Dai! dyna bwll y Swamp, byth na chyffro i, neu rwpath tepig iawn iddo."

"Nace, bachan, mae'n debycach i Abergorci o lawar. Rho dân pib, ’nei di

Dyna'r siarad pob sillaf yn dangos yn eglur fod y bechgyn efallai ychydig yn hiraethus eisoes—yn cario Cwm Rhondda yn eu calonnau gyda hwynt i bobman. Wedi hynny, Birkenhead, ac afon brysur Lerpwl yn ymagor o'u blaen, ac wedi hynny drachefn y ddinas fawr ei hun, fel pe bai yr Amerig lydan, brysur, aflonydd yn gwthio un fraich dros Iwerydd i afaelyd yn yr hen fyd.

Nid oedd y côr i "gymryd y dŵr " hyd drannoeth, ac yr oedd hyn yn gyfle braf i'r aelodau i edrych o'u deutu. Hynny a wnaed, ond yn hynod iawn, cyn pen teirawr, yr oedd y mwyafrif ohonynt wedi dychwelyd