Tudalen:Daffr Owen.pdf/68

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn ddeuoedd ac yn drioedd o'r ddinas ei hun i'r Landing Stage, ac yn syllu gyda diddordeb ar y bywyd egniol a oedd yno. Pobl o bob iaith a lliw—pawb â'i ofid, pawb â'i bwn—yn brysio heibio i'w gilydd, a welid yno, rhai yn dod o'r gwledydd tramor, eraill, fel y cantorion eu hunain, yn mynd yno; mewn gair, bwrdd cyfnewid yr holl fyd.

Yr hyn a dynnodd sylw glowyr y Rhondda yn bennaf, serch hynny, oedd gweld cyflymder y llwytho a'r dadlwytho o'r agerfadau bychain a wibiai yn llawn teithwyr o'r naill ochr i'r llall, ynghyd â symudiadau y badau llydain hynny a gludai'r llwythi mawrion o'r Landing Stage i'r ochr draw—y ceffylau, y ceir, a'r wagenni, yn sefyll ar eu bwrdd yn union fel pe baent ar yr heol ei hun, cyn eu symud yn un crynswth i'r ochr ddeau i'r afon.

"Dyna waith smart, on'tefa, bachan? 'Rwy'n siwr fod y bâd yn troi nôl am ail lwyth cyn y b'asa". Shoni Jones yn doti dram yn ôl ar y rhails. A ma' fe'n cyfri 'i hunan yn lled smart, cofia di! Ond ta' beth am hynny, good old Shoni 'weta i, mae 'i wâth e' i'w gâl. Er 'i hen dafod scaprwth i gyd, fe ddath i Gardydd i'n heprwng wedi'r cwbwl. Ond yr oedd yn rhaid iddo roi un crafad hyd 'n oed yno. Ti, Dai, o'dd yn 'i châl hi am ganu'n sharp. 'Dwy ddim yn cretu 'i fod wedi madda' byth i ti am, faeddu 'i gendar e' yn Tylorstown ar 'Fugeiles yr Wyddfa' slawar dydd. Ond dyma fe—Shoni yw e'—peth yn dda, a pheth yn ddrwg, fel ni i gyd."

Bore trannoeth yn gynnar aeth y cantorion i fwrdd y llong fawr a'u cludai, a chyn pen dwyawr gollyngwyd y rhaffau, ac yn araf dechreuodd y llestr symud. Tarawodd rhyw Gymro "Hen Wlad fy Nhadau" ar y Landing Stage, ond methiant a fu'r cynnig, yr oedd pob calon yn rhy drwm i ganu hyd yn oed honno ar foment ymadael.

Daliwyd i chwifio'r cadachau serch hynny oddiar y bwrdd ac oddiar y lan hyd nes i'r llong ymgolli yn y niwl a oedd yn dyfod i fyny o enau'r afon. Trodd Cymry Lerpwl, a llawer Cymro arall, a ddeuthai cyn