Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw, Cymru 1903.pdf/4

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Anfesuredig yw Duw da,
A Mab Jehofa hefyd,
Felly yn gu mewn hollawl gân
Mae mesur y Glân Yspryd.

Yspryd Glan sy o'r Tad a'r Gair
Heb wneud ei grair na'i greaw;
Na'i genhedlu gan neb yn wir
Oherwydd mae'n clir ddeilliaw.

Canys fel y mae yr enaid rhydd
Rhesymol di—brudd—athrist
A'r Cnawd yn un, felly Duw
A dyn sydd, clyw, o'r unCrist.
—DAFYDD JONES.



Robert Wynn,[1] pn. Llanuwchllyn a gladdwyd yn Llangywer.

Mewn pryd, tro hyfryd, trwy hedd—was dewrwych
Ystyria dy ddiwedd;
Meddylia, ddyn meddaledd,
Diame mai dyma medd.
Mai 2 1720
ei oed 64.



I DYNNU DAINT.

Cymer lyffant melyn o'r dŵr fis Mawrth neu fis Mai, a berw mewn dŵr, a dod dy fys yn y dŵr hwnnw. Cyffwrdd y daint a fynnech, ac ef a syrth o'ch pen.



SWYN SERCH.

Cymer lysieuyn a elwir y gas-wenwyn, a thorr un a fo a 5 cainc neu a 3 cainc. Cadw yn dy fynwes un diwrnod, a thrannoeth dyro yn i mynwes hithau. A hi a'th gâr yn fawr. Hwn yw'r gore oll, ran i fod yn enw Duw a saint y nef.


O mynni beri i bobl ffoi allan o'r ty cais frasder cath, a gwna 4 canwyll, a dod un ymhob congl i'r ty; a diffodd bob goleuni arall ond y 4 canwyll rheini; a phawb a fo yn y ty a welant lawer o anifeiliaid echrydus neu ddychrynllyd, a hwy a ffoant allan am y cynta.



RHINWEDD Y FERFAIN.

Dos lle i bod yn tyfu, a gostwng i lawr ar dy ddeulin ac addola iddo, a dywed bader ac afi a chredo ger ei fron, a dadwreiddia â phren heb ddim haiarn arno, oni fo agos o'r gwraidd, ac na thynn i fyny yn gwbl. A dyro ardes arian yn ei gylch, ac felly gad. A dos ymaith. A na ad i neb wybod dy gyfrinach. A thrannoeth. dos ato yn fore, cyn codi haul, a na ad i neb wybod, a dywed y geirie hyn,—

Molies radix concurris siper Patrem et Filium at Spiritum Sanctum et per firicem quatuor obsenuros et per anglost et aglost englost et per passim et nullum virtutem terram elincos et rem in et per potentem Diws de nomini Patris et Filii et Spiritus Sancti. Amen.

Ac yna cloddia ef yn gwbl i fyny, a golch mewn gwin neu laeth bronne, oblegid ei fonedd; ac yna cornia ef mewn llien cryf, a dyro dan y fferen, a chadw ef yn dda, oherwydd llawer a dâl ef.

1. Os cyffwrdd ef a chroen noeth merch, gofid a fydd arni o gariad y neb a'i twitsio, yn gymaint ag nas cymero na bwyd na diod o gariad arno hyd oni chaffo hi ef.

2. Pwy bynnag a geisio neges gan neb, ni naceir; ond ei ganiatau'n llawn iddo a wneir.

3. Rhodder ef mewn dŵr, y cwbl o'r pysgod a ddont i'r lan ato lle i bo yn aros.

4. O rhoir ef dan wraig lle bo hi yn eistedd, ni all eiste arno. Os morwyn, hi all eiste.

5. Y dyn a yfo ei sug, fo fydd cudd ple bynnag yr el, oni yfo ddŵr bendigaid ar i ol.

6. Pwy bynnag a'i dyco gydag ef, ni wneir afles iddo.

7. Os bydd gwenwyn mewn bwyd neu ddiod i ddyn, yfed i sug, a bydd iach.



RHINWEDD CROEN NEIDR.

Cymer groen neidr, a fwrio hi rhwng y ddwy wyl Fair, a llosg ef y trydydd dydd o brif lloer Ebrill, a chadw y lludw hwnnw'n dda, o ran mae rhinwedd mawr arno.

1. Os bydd gwraig yn trafaelio mae'n dda.
2. Mae'n dda i ennill campie a chwareuon.
3. Os bydd cymydog drwg, bwrw dipyn o'r powdr yn ei dŷ, ac ni thrig ef byth ynddo ar ol hynny.
4. Os mynni wybod cyfrinach, dyro dipyn yn dy glust, a thi a glywi y cwbl.

  1. Vicar Gwyddelwern.