Na gorallt fedw, na goror,
Na bronnydd, mynydd, na môr.
Och it, niwlen felenfawr,
O'th roed di, na threiut awr!
Casul o'r awyr ddulwyd,
Carthen anniben iawn wyd.
Gwrthban y glaw draw drymlyd,
Gwe ddu o bell a gudd y byd.
Mal tarth uffernbarth ffwrnbell,
Mwg y byd yn magu o bell:
Mwg ellylldan o Annwn,
Abid tew ar y byd hwn.
Ucheldop adargopwe
Fal gweilgi'n llenwi bob lle.
Tew wyd a glud, tad y glaw,
Tyddyn a mam wyt iddaw.
Cnwd anhygar diaraul,
Clwyd forlo rhyngo' a'r haul.
Nos im fydd dydd diferglwyd,
Dydd yn nos, pand diddawn wyd?
Tew eiry fry'n toi ar y fron,
Tud llwydrew, tad y lladron.
Gwasarn eira llon Ionawr,
Goddaith o'r awyr faith fawr,
Ymlusgwr bwriwr barrug,
Hyd moelydd grinwydd a grug.
Hudol gwan yn ehedeg,
Hir barthlwyth y Tylwyth Teg.
Gŵn i'r graig, gnu awyr gron,
Cwmwl planedau ceimion.
Ager o donnau eigiawn,
Mor wyd o Annwn, mawr iawn.