YR wybrwynt helynt hylaw,
Agwrdd drwst a gerdda draw,
Gŵr eres wyd, garw ei sain,
Drud byd heb droed heb adain.
Uthr yw mor aruthr y'th roed
O bantri wybr heb untroed,
A buaned y rhedy
Yr awron dros y fron fry.
Dywed im, diwyd emyn,
Dy hynt, rhyw ogleddwynt glyn.
Och wr, a dos uwch Aeron
Yn glaear deg, yn eglur dôn.
Nac aro di, nac eiriach,
Nac ofna er Bwa Bach,
Cyhuddgwyn wenwyn weini;
Caeth yw'r wlad a'i maeth i mi.
Nythod ddwyn, cyd nithud ddail,
Ni'th dditia neb, ni'th etail