Na llu rhugl, na llaw rhaglaw,
Na llafn glas, na llif, na glaw.
Ni'th ladd mab mam, gam gymwyll,
Ni'th lysg tân, ni'th lesga twyll.
Ni boddy, ni'th rybuddiwyd,
Nid ei ynglŷn, diongl wyd.
Nid rhaid march buan danad,
Neu bont ar aber, na bad.
Ni'th ddeil swyddog na theulu
I'th ddydd, nithydd blaenwŷdd blu.
Ni'th wŷl drem, noethwâl dramawr,
Fe'th glyw mil, nyth y glaw mawr.
Rhad Duw wyd ar hyd daear,
Rhuad blin doriad blaen dâr.
Noter wybr natur ebrwydd,
Neitiwr gwiw dros nawtir gwŷdd.
Sych natur, creadur craff,
Seirniawg wybr siwrnai gobraff.
Saethydd ar froydd eiry fry,
Seithug eisingrug songry,
Drycin ym meherin môr,
Drythyllfab ar draethellfor.
Huawdl awdr hudol ydwyd,
Hewr dyludwr dail wyd.
Hyrddwr breiniawl, chwarddwr bryn,
Hwylbrenwyllt heli bronwyn.
Hydoedd y byd a hedy,
Hin y fron, bydd heno fry.
Gwae fi, pan roddais i serch
Ar Forfudd, araf eurferch!
Rhiain a'm gwnaeth yn gaethwlad,
Rhed fry rhod a thŷ ei thad.