Y LLWYN bedw dianedwydd,
Lle da i aros lliw dydd,
Llwybr ewybr glaslwybr glwysliw,
Llen o ddail llathr gwiail gwiw,
Lle cynnes iarlles eurllen,
Lle cyfraith bronfraith ar bren,
Lle glwys bron, lle golas brig,
Lle deuddyn er llid Eiddig,
Llen gêl merch a'i gordderchwas,
Llawn o glod ydyw'r llwyn glas,
Lle daw meinwar a'm cariad
I dŷ dail, o waith Duw Dad.
Cefais ryw geidwad adail,
Eurllen deg ar y llwyn dail,