Tudalen:Dafydd ap Gwilym Detholiad o'i Farddoniaeth.djvu/30

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Eos glwysgerdd is glasgoed,
Arwydd cyfanheddrwydd coed,
Wdwart erioed mewn coedwig
Ar ael bron er arail brig.
Gwnaf ystafell mewn celli,
Gwiw rydd o newydd i ni;
A glaslofft o fedw glwysliw,
A hafdy a gwely gwiw;
Parlwr o irwydd purlas,
Pair clod ar oror parc glas;
Cwmpas o fedw a gedwir,
Conglau cadeiriau coed îr;
Capel glwysfrig ni'm digiai
O ddail irgyll mentyll Mai.
Dyhuddiant fydd y gwŷdd gwiw,
Dihuddygl o dŷ heddiw.
O daw y fun i dŷ fau,
I dŷ fun y dof innau.
"Yr eos fain adeinllwyd,
Llatai ddechrau Mai im wyd!
Bydd nerth ar ael corberthi,
Gwna ddydd rhwng Morfudd a mi."

I'r Alarch.

"YR alarch ar ei wiwlyn,
Abid galch fal abad gwyn,
Llewych edn y lluwch ydwyd,
Lliw gŵr o nef, llawgrwn wyd.
Dwys iawn yw dy wasanaeth,
Hyfryd yw dy febyd faeth.