Duw roes it yn yr oes hon.
Feddiant ar lyn Yfaddon.
Dau feddiant rhag dy foddi
O radau teg roed i ti:
Cael bod yn ben pysgodwr,—
Llyna ddawn uwch llyn o ddŵr,—
Hedeg ymhell a elli
Uwchlaw y fron uchel fry,
Ac edrych, edn gwyn gwych gwâr,
I ddeall clawr y ddaear,
A gwylio rhod a'r gwaelod,
A rhwyfo'r aig, rhif yr ôd.
Gwaith teg yw marchogaeth ton
I ragod pysg o'r eigion.
Dy enwair, ŵr dianardd,
Yn wir yw'r mwnwgl hir hardd.
Ceidwad goruwch llygad llyn,
Cyfliwaidd cofl o ewyn.
Gorwyn wyd uwch geirw nant
Mewn crys o liw maen crisiant.
Dwbled mal mil o'r lili,
Wasgod teg, a wisgud ti.
Sieced o ros gwyn it sydd,
A gown o flodau'r gwinwydd.
Cannaid ar adar ydwyd,
Ceiliog o nef, clog—wyn wyd.
Gwrando f'achwyn, addwyn ŵr,
Wrthyd, a bydd im nerthwr.
Merch fonheddig sy'n trigaw,
A gwawr dlos sy gar dy law.
Brysia dithau—gorau gŵr,
Wyn ei gesail negeswr—