Tudalen:Dafydd ap Gwilym Detholiad o'i Farddoniaeth.djvu/32

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Nofia'n ufudd, ni'th luddir,
A dos i Gemais i dir.
Deled i'th gof ei gofyn,
Deuliw'r lloer, o Dal y Llyn.
Henw'r ferch a anerchir,
Hyn yn wawd yw ei henw'n wir,
U sy fry (H) hy hoywen,
A thair D ac Y ac N.
Cyrch yn araf ei 'stafell,
Cyfarch o'th ben i wen well.
Addef fy nolur iddi,
A maint yw fy amwynt i.
Dwg i mi, dig wyf am wen,
Wr lliwus, eiriau llawen.
Duw i'th gadw rhag pob adwyth,
Teg ei ben, ti a gei bwyth."

Cyngor y Biogen.

A MI'N glaf er mwyn gloywferch,
Mewn llwyn yn prydu swyn serch,
Ar ddiwrnawd, pybyrwawd pill,
Ddichwerw wybr ddechrau Ebrill,
A'r eos ar ir wiail,
A'r fwyalch deg ar fwlch dail-
Bardd coed mewn trefgoed y trig-
A bronfraith ar ir brenfrig
Cyn y glaw yn canu'n glau
Ar lwys bane eurlais bynciau;
A'r ehedydd lonydd lais,
Cwcyll-lwyd edn cu call-lais,