Yn myned mewn lludded llwyr
A chywydd i entrych awyr,
Minnau, fardd rhiain feinir,
Yn llawen iawn mewn llwyn ir,
Gan ddigrifed gweled gwŷdd,
Gwaisg nwyf, yn dwyn gwisg newydd,
Ac egin gwin a gwenith
Ar ôl glaw ar ael y gwlith,
A dail glas ar dâl y glyn,
A'r draenwydd yn ir drwynwyn;
Myn y nef, yr oedd hefyd
Y Bi, ffela' edn o'r byd,
Yn adeilad, brad brydferth,
Ym mhengrychedd perfedd perth,
O ddail a phriddgalch balch borth,
A'i chymar yn ei chymorth.
Syganai'r Bi, cyni cwyn,
Drwynllem falch ar y draenllwyn,
"Mawr yw dy ferw, gochwerw gân,
Henwr, wrthyd dy hunan.
Gwell it, myn Mair, air aren,
Gar llaw tân, y gŵr llwyd hen,
Nog yma 'mhlith gwlith a glaw
Yn yr irlwyn ar oerlaw."
"Taw a'th sôn, gad fi'n llonydd,
Ennyd awr oni fo dydd.
Dydi Bi, du yw dy big,
Uffernol edn tra ffyrnig!
Mawrserch am ddiweirferch dda
A bair im y berw yma.
Mae i tithau, gau gofwy,
Swydd faith neu lafur sydd fwy-