Tudalen:Dafydd ap Gwilym Detholiad o'i Farddoniaeth.djvu/34

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Toi nyth fel twyn o eithin,
Tew o ddraenwydd crynwydd crin.
Mae't blu brithddu, gu gyfan,
Mae't boen a brad, mae't ben bran,
Mae't lw twng, mae it liw tyg,
Mae't lys hagr, mae't lais hygryg.
A phob iaith bybyriaith bell
A ddysgud, freithddu asgell.
Dydi Bi, du yw dy ben,
Cymorth fi, od wyd cymen.
Dyro ym gyngor gorau
A wypych i'r mawrnych mau.
Gwyddwn it gyngor gwiwdda,
Cyn dyddiau Mai, o gwnai, gwna.
Nychlyd fardd, ni'th gâr harddfun,
Nid oes it gyngor ond un-
Dwys iawn fydr, dos yn feudwy.
Och, wr mul, ac na châr mwy!"
Llyma 'nghred, gwylied Geli,
O gwelaf nyth byth i'r Bi,
Na bydd iddi hi o hyn,
Nac wy dioer nac aderyn!


Y Lleuad.

DIGIAW 'dd wyf am liw ewyn,
Duw a wyr meddwl pob dyn.
O daw arnaf o'i chariad,
F'enaid glwys, fyned i'w gwlad,
Pell yw i'm bryd obrwyaw
Llatai drud i'w llety draw,