Na rhoi gwerth i wrach serth swydd
Orllwyd daer er llateirwydd;
Na dwyn o'm blaen danllestri,
Na thyrs cŵyr, pan fo hwyr hi,
Dros gysgu y dydd gartref,
A rhodiaw'r nos dros y dref.
Ni'm gŵyl neb, ni'm adnebydd,
Ynfyd wyf, oni fo dydd.
Mi a gaf heb warafun,
Rhag didro heno fy hun,
Canhwyllau'r Gŵr biau'r byd
I'm hebrwng at em hoywbryd.
Bendith ar enw'r Creawdrner
A wnaeth saeroniaeth y sêr,
Hyd nad oes dim oleuach
No'r seren gron burwen bach.
Cannaid yr uchel Geli,
Cannwyll ewybr bwyll yw hi.
Ni ddiffam pryd y gannwyll,
A'i dwyn ni ellir o dwyll.
Nis diffydd gwynt hynt hydref,
Afrlladen o nen y nef.
Nis bawdd dwfr llwfr llifeiriaint,
Disgwylwraig desgl saig y saint.
Nis cyrraidd lleidr o'i ddwylaw
Gwaelawd cawg y Drindawd draw.
Nid gwiw i ddyn o'i gyfair
Ymlid maen mererid Mair.
Golau fydd ym mhob ardal,
Goldyn o aur melyn mâl.
Gwir fwcled y goleuni,
Gwalabr haul gwelw wybr yw hi,