Tudalen:Dafydd ap Gwilym Detholiad o'i Farddoniaeth.djvu/36

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Hi a ddengys im heb gudd,
Em eurfalch, lle mae Morfudd.
Crist o'r lle bo a'i diffydd,
Ac a'i gyr, nid byr y bydd,
Gosgedd torth gann gyfan gu,
I gysgod wybr i gysgu.


Henaint.

CURIODD anwadal galon.
Cariad a wnaeth brad i'm bron.
Gynt yr oeddwn, gwn ganclwyf,
Yn oed ieuenctid a nwyf,
Yn ddilesg, yn ddiddolur,
Yn ddeiliad cariad y cur,
Yn ddenwr gwawd, yn ddinych,
Yn dda'r oed, ac yn ddewr wych,
Yn lluniwr berw oferwaith,
Yn llawen iawn, yn llawn iaith,
Yn ddogn o bwynt, yn ddigardd,
Yn ddigri', yn heini, 'n hardd;
Ac weithian, mae'n fuan fâr,
Edwi 'dd wyf, adwedd afar;
Darfu'r rhyfyg a'm digiawdd,
Darfu'r corff mau, darfer cawdd.
Darfu'n llwyr derfyn y llais,
A'r campau, dygn y cwympais.
Darfu'r awen am wenferch,
Darfu'r sôn am darfwr serch.
Ni chyfyd ynof, cof cerdd,
Gyngyd llawen ac angerdd,
Na sôn diddan am danun,
Na serch byth, onis eirch bun.