Tudalen:Dafydd ap Gwilym Detholiad o'i Farddoniaeth.djvu/37

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

NODIADAU.

CREULONDEB MERCH

CYD BYCH: tra fyddi.TÂL EWYN: talcen gwyn fel ewyn y donDROS DY GARU: am (iddo) dy garu.PERCHI: parchu.MAU : fy.

I'R LLEIAN.

LLEIAN : merch o fynach, nun.LLYGEITU: llygeid—du.WYTHLIW SER: wythwaith cyn hardded a'r sêr.LLASWYRAU: salmau.CREFYDDES O SANTES: santes yn cadw ei llw.BWRW AR GAS Y BERWR: gofala gasáu berw dwfr (y mae'n debyg y defnyddid berw dwfr—water—cress—yn rhai o'r defosiynau).MENYCH myneich.PADER gweddi.PADER MAIN paderau cerrig, beads y Pabydd.CADEIRIOG: yn ymestyn allan. GWYRDD WISG: cyfeiriad at hen seremonïau'r gwanwyn.GWYDD coed.GOREUFERCH:uchelwraig, ladyOFYDD:Ovid, un o feirdd serch Rhufain.Llyfr Ofydd—yr Ars Amatoria (Celfyddyd Caru) neu efallai'r Commandment Ovid Ffrangeg.SAIN SIÂM (Saint James):Santiago de Compostella yn Sbaen, lle y cyrchai pererinion. Cyfeiriad ydyw hwnat y bobl a dyngai lw i beidio â siarad.

I FORFUDD.

AIS: asennau.DU LLUNDAIN: brethyn a wneid yn Llundain.MWNWGL gwddf.GLOYWGAE: perl gloyw.PUM LLAWENYDD: pum llawenydd Mair—ei beichiogi, geni Crist, ei atgyfodi, ei ddyrchafael, a'i fyned i Baradwys ei Dad.NITH ANNA: un deilwng o fod yn ddisgynnydd i Anna. Yn ôl Efengyl Iago, yn yr Apocrypha, Anna oedd mam Mair Forwyn.