glwydd Iesu Grist. Pregetha y Gair, bydd daer mewn amser, ac allan o amser," &c. "Mi wn i," fel pe dywedasai, "na fydd hynny ddim at chwaeth yr oes." "Canys daw amser," meddai, "pryd na ddioddefont athrawiaeth iachus. Eithr yn ol eu chwantau eu hunain y pentyrrant iddynt eu hunain athrawon gan fod eu clustiau yn merwino." Mi fydd rhyw ysfa ryfedd yng nghlustiau y bobl am rywbeth newydd, ac "oddi wrth y gwirionedd y troant ymaith eu clustiau, ac at chwedlau y troant."
Wel, beth sydd i'w wneud? Beth sydd i'w wneud? 'Does dim ond un peth i'w wneud, "pregetha y Gair." A fuasai ddim yn well newid ychydig, neu gymysgu a'r gair a'r athrawiaeth iachus rywbeth fydd yn fwy at chwaeth yr oes, i geisio dal gafael yn y bobol? Na, dim o hynny, medda'r Apostol, dim o hynny, ond "pregetha y Gair." Fel yna yr oedd yr Apostol wedi gwneud ar hyd ei oes weinidogaethol lafurus.
Meddai wrth y Corinthiaid: "A myfi pan ddeuthum atoch, frodyr, a ddeuthum nid yn ol godidow.grwydd ymadrodd. Canys ni fernais i mi wybod dim yn eich plith, ond Iesu Grist, a hwnnw wedi ei groeshoelio." Dim,—dim,—ond Iesu Grist. Wel, oni ddygwyd di i fyny wrth draed yr athraw enwog yn y Brifathrofa yn Jeriwsalem? Pa iws oedd rhoi ysgol dda iti? Oni chlywaist ti lawer o bethau yno? "Chlywais i ddim wrth ei draed ef, nac wrth draed neb arall, sydd yn werth geni i'w bregethu i bechaduriaid sydd a'u hwyneb ar dragwyddoldeb—dim, dim yn y byd, ond 'Iesu Grist, a hwnnw wedi ei groeshoelio.'"