"Yr Iesu yr wyf yn ei adnabod," medda'r ysbryd aflan, ystyfnig, hwnnw yn Effesus, fel y mae'r hanes yn Llyfr yr Actau pan oedd saith o feibion Scefa yn ceisio'i reoli. Buasai yn well o lawer iddynt fod yn llonydd iddo—fe drôdd yr ysbryd arnynt fel teigar. "Yr Iesu," medda fo, "yr Iesu yr wyf yn i adnabod, a Phaul a adwaen. Ond pwy ydych. chwi ——— y?" "Pwy ydych chwi?" Fe ruthrodd arnynt, ac fe fu yn drwm yn eu herbyn, a bu agos iawn iddo eu lladd, saith ohonyn nhw (a fuasai o fater yn y byd pe buasai wedi gorffen am wn i—dyn— ion gwael oedd y meibion Scefa yma). O, fel y mae cydwybod derfysglyd yn barod i ddweud wrth bob pregethwr. "Yr Iesu yr wyf yn ei adnabod, a Gwaed y Groes a adwaen—ond pwy, a beth, ydych chwi?"
Godidowgrwydd ymadrodd, neu ddoethineb, ac athroniaeth a gwyddoniaeth, ac uwchfeirniadaeth, a diwinyddiaeth newydd, pwy, a beth, ydych chwi? Ond y mae cydwybod lawn o dân cyfiawnder glân a'r gyfraith yn adnabod yr Iesu.
"Mae munud o edrych ar aberth y Groes.
Yn tawel ddistewi môr tonnog fy oes."
Frodyr ieuanc annwyl, gadewch i mi ddywedyd wrthych â phob difrifwch wrth derfynu, Daliwch i bregethu Efengyl dragwyddol i bechaduriaid anghenus, ac nid y rhywbeth, rhywbeth, a bregethir gan rai o'r Saeson yna, a chan ambell i grwt o Gymro, hwyrach, er mwyn ceisio dangos ei wybodaeth, a llwyddo i ddangos ei ffolineb, a gwneud ei ynfydrwydd yn amlwg i bawb; ac yn fwy amlwg na dim arall o bosibl. "Na'ch arweinier oddiamgylch ag