athrawiaethau amryw a dieithr. Canys da yw bod y galon wedi ei chryfhau à gras," a da i ambell un, er gochel hyn, fyddai fod ei ben wedi ei gryfhau â synnwyr cyffredin. Dyna angen mawr amal un, fe ddichon, "Fel na byddom mwyach yn blantos, medd yr Apostol, "yn blantos gwirion yn rhedeg ar ol pob peth newydd, ac yn bwhwman "—yn rhyw geiliogod gwynt yn troi a throsi i ganlyn yr awel o hyd.
Peidiwch a mynd i ganlyn pob pwff o awel dysg— eidiaeth ac athrawiaethau amryw a dieithr, ac yn enwedig peidiwch a rhyw lygio ynddynt i ddadlau yn eu herbyn yn y pulpud. Nid yw hynny yn fuddiol i ddim ond dymchwelyd y gwrandawyr; yn lle hynny, pregethwch y gwirioneddau gwrthgyferbyniol iddynt—"y gwirionedd megis y mae yn yr Iesu," nes cynhesu calonnau y gwrandawyr. Siarad â chalonnau pobl ydyw'r gorau, a gadael i'w calonnau siarad â'u pennau. Trwy y galon y mae gwirioneddau ysbrydol yn mynd i'r pen. Rhaid eu teimlo at eu deall. "Ag allwedd nefol brofiad," meddai Williams Pantycelyn, yn ei farwnad ar ôl hen chwaer dduwiol iawn yn Sir Fynwy.
Mae hi yn cofio ysgrythyrau
Sydd am Iesu a'i farwol glwy,
Ac âg allwedd nefol brofiad
Yn eu hyfryd ddatgloi hwy.
Glynwch, frodyr ieuanc, wrth gyngor buddiol yr Apostol Paul tuag at gyrraedd amcanion, pwysig eich gweinidogaeth. A hyn rydd dawelwch meddwl i chwi oll, megis i'r Apostol ei hun, wedi dod i'r ter-