Tudalen:David Williams y Piwritan.djvu/114

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

fyn. Yr wyf yn tystio i chwi y dydd heddiw," meddai'r Apostol wrth ffarwelio â henuriaid Effesus. "Mi wn o'r gorau na welwch mo fy wyneb i eto— oherwydd paham, yr ydwyf yn tystio i chwi y dydd heddiw fy mod i yn lân oddiwrth waed pawb oll. Canys nid ymateliais rhag mynegi i chwi holl gyngor Duw." O, rhywbeth anhraethol werthfawr a fyddai i ninnau gael teimlo fel yna y dydd y byddwn yn rhoddi i fynny ein cyfrif. Daw yr amser pryd na bydd mynd i gapel mwy, nac i bulpud mwy, nac i blith y bobl y buom yn pregethu Teyrnas Dduw iddynt. Peth nobl fyddai teimlo y gallem wahodd atom ein holl wrandawyr, a dweud wrthynt gyda chydwybod dawel, "Yr wyf yn tystio i chwi y dydd heddiw—a diwrnod mawr i mi ydyw heddiw—yr wyf yn tystio i chwi heddiw fy mod i yn lân oddiwrth waed pawb oll, canys nid ymateliais rhag mynegi i chwi holl gyngor Duw." "Mi a ymdrechais ymdrech deg, mi a orffennais fy ngyrfa." Fy mrodyr ieuanc, dyma fi yn ffarwelio â chwi, ac wrth bob un ohonoch y dymunwn ddweud gyda phob sobrwydd, "Bydd ddyfal i'th osod dy hun yn brofedig gan Dduw" (2 Tim.).