VI.
Y SEIAT FAWR YN LERPWL.—Y GAIR OLAF.
1914.
Mr. Llywydd a hen gyfeillion annwyl a hoff,—
Mae yn dda iawn gennyf eich gweled unwaith eto, ac yr wyf yn siwr fod yn dda gennych chwithau fy ngweled innau (chwerthin a chymeradwyaeth). Fe fuasai'n dda gennyf gael eich gweled heb i mi ddweud dim. 'Does dim angen am ddweud dim; y mae popeth da wedi ei ddweud; a phan nad oes amser i'w ddweud, na dim eisiau ei ddweud, wel, y peth synhwyrol ydyw tewi, a dweud dim (chwerthin). Ni wnaf ond crybwyll un ymadrodd, geiriau yr Arglwydd Iesu Grist, "Chwychwi yw y rhai a arosasoch gyda mi yn fy mhrofedigaethau." Aros gydag ef yn ei brofedigaethau. Oes, y mae i'r Iesu ei brofedigaethau y dyddiau hyn trwy'r deyrnas yma; yr achos yn isel iawn mewn llawer man, y mae hen bobl yn dweud na welsant hwy mo achos crefydd mor isel. Pwy a adawodd Grist gan garu y byd presennol? Bron na ddywedwn i wrth gymryd golwg gyffredinol ar y deyrnas yma, "Pawb a adawsant Grist, gan garu y byd presennol." Miloedd pobl ieuanc y deyrnas yma yn gyrru yn ynfyd ar ol pleserau, a chwareuon, a difyrrwch, a phobl ganol oed, a hen bobl hefyd (chwerthin), yn gyrru mor ynfyd ar ol golud, yn gadael Crist gan garu y byd presennol. A