Tudalen:David Williams y Piwritan.djvu/128

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

galon yma. Y mae'r ofer feddwl yn mynd yn feddwl llygredig, ac y mae hwnnw'n awgrymu rhyw feddwl drwg arall. Y mae'r meddwl drwg yn casglu ato gyfeillion. Y mae un o athronwyr yr oes yn dweud mai un gwahaniaeth rhwng y dyn da a'r dyn drwg ydyw hyn, nid nad oes yn y dyn da lawer o'r hyn sydd ddrwg o ran nwydau a chwantau a thymherau, ond ei fod yn gofalu am droi attention y meddwl. oddiwrth y pethau sy' ddrwg at y da a'r pur.

Rhaid gochel yr achlysuron allanol i ddrwg feddyliau. Fe fyddai'n eithaf peth inni deimlo rhyw fath o anymddiried ynom ein hunain trwy adnabyddiaeth o dwyll y galon. Glywch chi air yr Ysgrythur Lân yma: "Y neb a ymddiriedo yn ei galon ei hun sydd ffol." Yn wir yr ydwi'n meddwl y cewch chi fod hyn yn wir, y mwyaf gwan i wrthsefyll temtasiwn ydyw'r parotaf i'w ddodi ei hun mewn temtasiwn.

(d) Rhaid gwrthwynebu'n benderfynol ac â'n holl nerth y cynygion cyntaf oll a wneir gan ddrwg feddyliau am le yn y galon. Cynhyrfu holl ymadferthoedd yr enaid yn eu herbyn pan fônt yn ymrithio gyntaf gerbron y galon. "Pan ddisgynai yr adar ar y celaneddau." Abraham yn aberthu, a rhyw adar ysglyfaethus yn mynd i ddisgyn ar yr ebyrth. Ond "pan ddisgynnai yr adar ar y celaneddau, yna Abraham a'u tarfai hwynt" yn y munud, nid wedi iddyn nhw ddisgyn, ond pan y bydde nhw yn disgyn. Fe fyddai Abraham yno yn y munud yn eu tarfu nhw. O, gyfeillion, pan mae'r adar ysglyfaethus hyn, llygredig a drwg feddyliau o bob math, pan mae nhw yn rhyw ddisgyn ar y galon, dyna'r amser i'w tarfu nhw, i'w "showio" nhw i ffwrdd, ac nid wedi iddynt ddisgyn. Casglwn ynghyd holl nerth ein natur mewn