yn canmol ei thegwch, ac yn canu ar graig yr Imbill draw:
"Holl olwg tref Pwllheli
O'i heang sail ddengys hi,
Llawn gyfyd Llŷn ac Eifion,
Dirlun hardd o dorlan hon."
Dyna'r adeg y clywid swn morthwylion y seiri llongau i lawr yn yr harbwr, a thrafod materion porthladd a helyntion môr ar y cob. Bob yn dipyn fe aeth yr hen ddiwydiant i lawr, a dyna'r hen dref bellach yn graddol ymnewid. Proffwydai'r bardd y gwelid y graig y safai arni wedi ei darnio i fod yn rhywbeth arall.
"Ynghrombil eang yr Imbill—d'wedant
Y dodir cryf ebill,
Dynn o'i pherfedd ryfedd rill
Taranol at ryw ennill.
Gwŷr y gyrdd hyd ei gwar gerddant—diwrnod
Ei darnio ddaw meddant,
A'i chloddio nes byddo'n bant,
Agennog diogoniant.
Onid trwm fydd trem y fan
Os tynnir cilbost anian?"
Erbyn hyn dyma " gilbost anian " wedi'i falurio i'w sail a'i grombil wedi mynd yn friwsion. Lledwyd terfynau yr hen dref ynghwrs blynyddoedd, ac yn gymharol ddiweddar, yn lle'r ponciau tywod i gyfeiriad y traeth, dyma resi urddasol o aneddau llety. Er mwyn bod yn hollol modern, mae'n debyg, fe ddysgwyd Cymry glân Pwllheli i alw'r naill ddarn o'r datblygiad yn West End, a'r llall yn South Beach.