Tudalen:David Williams y Piwritan.djvu/14

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ond son yr oeddym am Lŷn yn y dyddiau gynt. Bwriwn ein bod yn myned cyn belled ag Edern yn y flwyddyn 1S50. Yn niffyg yr un cerbyd (oblegid yr oedd y " cyfleustra teithio " heb ddyfod eto) cawn deithio'n rhwydd a rhad yng ngherbyd dychymyg. Awn yn hwylus ar hyd ffordd wastad hyd yr Efail Newydd, rhyw filltir o'r dref. Yma y cydia dwy o briffyrdd gwlad Llŷn. Rhed hon ar y dde ar hytraws y wlad i gyfeiriad Nefyn, ac ar hon y bwriadwn dramwy. A ni'n myned heibio i gapel yr Efail Newydd cofiasom am John Williams, Brynsiencyn, yn y Goitsh ar fore Llun yn adrodd yn ei afiaith hanes John Moses Jones. Ymddengys bod yr hen frawd yno'n pregethu, ond yn anffodus yr oedd dwy chwaer huawdl a bregethai ym Mhwllheli wedi tynnu'r rhan fwyaf o'i gynulleidfa i wrando arnynt, —"Wel. gyfeillion," meddai John Moses, "mi wela fod y rhai calla o'r bobl yma, ond y mae'r ffyliaid wedi mynd i'r dref yna i glywed dwy gowen yn treio canu fel ceiliogod."

Gwelir yn fuan ar y dde un o'r hen blastai y somwyd am danynt, sef Bodfel. Y mae'i furiau yn cwyn delw cadernid plaen a diaddurn. Y peth mwya: trawiadol ynglŷn â hwn ydyw ddarfod i Dr. Johrson fod unwaith yn lletya dan ei do.

Deuwn, ymhen rhyw filltir, at un o lanerchau dymunol gwlad Llyn. sef Boduan—preswylfod yr Wyniaid o hen drâs. Edrych y deri a'r ffawydd yn urddasol megis brenhinoedd, a phob boncyff praff megys colofn yn dal i fyny do caeadfrig. Pan elom i rhiw o dan gangau'r gwŷdd fe glywir y brain yn cadw cynhadledd drystfawr uwch ein pen, a'u clochdar byddarol yn awgrymu bod dadl frwd ym mhlith y frawdoliaeth.