Tudalen:David Williams y Piwritan.djvu/37

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

V.

Y FELINHELI

(1865-1876)

Y mae pentref y Felinheli ar y ffordd bôst, a'r unig bentref rhwng Caernarfon a Bangor, yn fangre hyfryd a thawel. Saif ar lan Menai, ac ar ychydig o gilfach. Oddiyma i Fangor fe dyr y ffordd bôst i'r tir, a gwasgu eto'n nes ym mhen eithaf dinas Bangor.

Soniai'r teithwyr gynt gryn lawer am brydferthwch golygfeydd ardal y Felinheli, ac yn wir, y mae'r olwg o ben uchaf y pentref fel yr eir i mewn o gyfeiriad Caernarfon yn un na cheir ei thebyg yn fynych. Y mae'n werth aros beth i syllu arni, yn enwedig pan fo Menai mewn tymer go dda, ei hwyneb yn llyfn a llonydd.

"Ar nef wen uwch llen y llif
A'i delw ar y dylif."

Gwelwn Fôn, yr ochr draw, yn ei dangos ei hun yn ei gorau i bobl Arfon mewn llanerchau tlws a choediog. Draw acw y mae Porthamel, lle y glaniodd Suetonius i roddi terfyn ar Dderwyddiaeth ynys Fôn. A dyna Foel-y-don yn ddestlus a thawel ar lan y lli, lle bu gornest gostus Edward I. yn 1282. A'r afon yn ymestyn ymlaen, gwelwn hi'n troelli'n raddol i gyfeiriad Porthaethwy, a chwr un o'r