Tudalen:David Williams y Piwritan.djvu/64

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gadarn yn graddol ymddatod. Dyfod iddo yntau a wnaeth y diwedydd y soniodd gymaint am dano wrth gynulleidfaoedd Cymru a Lerpwl. Fe'i gollyngwyd i fro Nef a thangnef ei Arglwydd ar drothwy dydd yr Atgyfodi, sef nos Sadwrn y Pasc, 1920. Aethpwyd a'i weddillion i orwedd ym mynwent. Brynrodyn gerllaw. Preifat oedd yr angladd, a gwasanaethwyd gan y Parchn. William Williams, Llanwnda; John Jones, Brynrodyn; a John Owen, M.A., Caernarfon.

Rhannodd y rhan fwyaf o'i eiddo rhwng yr eglwysi y bu iddo ryw fath o gysylltiad a hwy yn ystod ei fywyd a mudiadau eraill perthynol i'r Cyfundeb.

O bydd dyn wedi cyrraedd oedran teg ac wedi'i gornelu gan lesgedd maith caiff hwnnw ddisgyn i'r bedd heb dynnu fawr o sylw ato'i hun. Yr oedd David Williams yn fwy cyhoeddus yn ei fywyd nag yn ei angau. Am dros hanner cant o flynyddoedd bu'r proffwyd hwn yn seren amlwg iawn yn ffurfafen Gweinidogaeth ei wlad a'i enw'n air teuluaidd ar aelwydydd Cymru.[1]


Er bod dros bum mlynedd ar hugain wedi rhedeg er pan adawsai Lerpwl, glynodd y ddinas yn ei serch tuag ato, ac nid aeth yn angof ganddi flynyddoedd ei wasanaeth ynddi. Dyma benderfyniad a geir yng Nghofnodion Cyfarfod Misol Crosshall Street, Ebrill 7, 1920: "Ein bod, fel Cyfarfod Misol, yn datgan ein gofid a'n galar o glywed am farwolaeth ein hannwyl dad, y Parch. David Williams, Llanwnda, a fu am lawer o flynyddoedd yn aelod ffyddlon ac amlwg o'r Cyfarfod Misol hwn. Manteisiodd yr

eglwysi lawer ar ei brofiad helaeth, ei farn aeddfed,

  1. Y Parch, W. M. Jones.