Tudalen:David Williams y Piwritan.djvu/65

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

a'i ddawn neilltuol, ac yr oedd ei weinidogaeth bob amser yn nodedig o gymeradwy a bendithiol, nid yn unig yn y cylch hwn, ond hefyd yn y wlad yn gyffredinol. Chwith yw meddwl na cheir clywed ei lais mwyach, a dymunwn roddi ar gofnodion y Cyfarfod Misol ddatganiad o'n hatgofion melys am ei Weinidogaeth a'i gymdeithas werthfawr, a'n cydymdeimlad â'i berthynasau yn eu galar."