RHAN II.
I.
YN Y PULPUD.
ESGYN David Williams i'r pulpud mewn dull gweddus a phriodol, ac fe welir rhyw arwydd o orchwyledd dwfn ymhob symudiad o'i eiddo. Y mae'i gorff yn un cymesur a chydnerth. Cyfyd yr ysgwyddau yn llydan a sgwar, a bron nad yw ei wddf cyn fyrred ag y gallai fod. Medd ben crwn a llawn, a'r gwallt yn ddiogel arno, wyneb llawn a glân, a chafodd ef, ffodus ŵr, hebgor eillio ond y nesaf peth i ddim. Teifl ei wefus uchaf allan ychydig, ac awgryma'r genau rwyddineb ymadrodd. Gwelwn fod ei lygaid llawn yn fyw, gloyw, a mynegiadol. Medr ef roddi trem i bob cwr o'r gynulleidfa heb braidd symud ei ben, a chawn yn ei edrychiad ryw gyfuniad rhyfedd o ddiniweidrwydd, prudd-der a difrifwch, ac, ambell dro, befriad hiwmor.
Cred mewn gwisgo'n drwsiadus, ond nid oes rodres ar ei gyfyl. Y mae natur a gras wedi bwriadu iddo fod yn bregethwr, ac nid yw ef am fradychu eu gwaith.
Y mae'i lais yn un eithriadol, llais dwfn a pheraidd, heb iddo gylch mawr. Dyma fel y disgrifiwyd ef gan law fedrus Anthropos: "Anaml y clywir neb