Tudalen:David Williams y Piwritan.djvu/67

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn siarad ar nodau mor isel-mor ddwfn. Petai'n arfer canu, gellid tybied ei fod yn faswr digyffelyb. Sieryd yn bwyllog a dymunol, pob gair yn dod o ryw ddyfnder cudd, ac eto'n gwbl naturiol."

Arwain yn y gwasanaeth mewn dull syml a defosiynol. Ledia'r emyn yn dawel ac ystyriol, ac y mae'r darllen yn llawn o feddwl dwys. Gwyr ei lwybr mewn gweddi, a gall gyfrodeddu geiriau'r ysgrythur, yn enwedig y salmau, fel y myn. Anodd ydyw gwybod pa un ai'r plentyn ai'r pechadur sydd fwyaf yn y golwg, ond hawdd ydyw deall bod dyn ysbrydol iawn yn y pulpud. Onid ydyw Duw mor fawr, a ninnau mor fach; Ef mor dda, a ninnau mor ddrwg; Ef mor llawn, a ninnau mor llwm. Haws ydyw gwrando wedi clywed ohonom hwn yn gweddio-fe grewyd yr awyrgylch.

Pan gyfyd i roddi ei destun y mae pawb a'u llygaid arno; ac, oblegid nad ydyw'n glywadwy iawn, fe welir rhai yn pwyso ymlaen yn eu seddau. Ymddiddanol yw ei ddawn, ac nid oes yma yr un ymdrech braidd i estyn y llais allan. Chwi dybiech ei fod yn cyfansoddi wrth fyned ymlaen, ond nid felly y mae. Gŵyr beth yw paratoi'n ofalus, a bydd ganddo ef ryw hanner dwsin o bregethau gorffenedig yn barod i ddyfod i'r maes. Ei naturioldeb cartrefol sydd, wedi'r cwbl, y tu cefn i'r dull ymddiddanol.

Gwelwn fod ei iaith yn gyfoethog a llawn, ac ni chlywir un amser neb yn medru trin ansoddeiriau i well pwrpas. Hawdd iawn ydyw colli golwg ar y rhagoriaeth yma ynddo, gan mae'i arfer ydyw bwrw i mewn ambell frawddeg gartrefol a gair gwerinol da. Ond, o fwriad hollol y gwna hynny, a'i amcan ydyw dyfod yn nes at y bobl, a gwneud ei ddisgrif-