Tudalen:David Williams y Piwritan.djvu/68

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

iadau yn fwy byw. Sonia am ffydd yn llygadu' i fyny;" "y dyn claf yn mynd yn ryw gripil gwan;" "y wraig yn dal i glebar o hyd;" "y carchar yn Philipi yn ysgwyd fel basged ludw," "Pedr yn bwnglera gyda'i gleddyf ac yn methui strôc"; Y wraig o Samaria yn lygio mewn rhyw gwestiynau anorffen; Gras y Nefoedd yn rhoi sgwd i bechod oddiar orsedd calon dyn; dagrau yn powlio o lygaid. yr apostol; "y diafol yn un di—sens. ac ambell ddyn yn hanner pan." Traffertha gryn dipyn i egluro cysylltiadau'r testun. "Wyddoch chi be, mhobol i," meddai rywbryd," pe tasech chi'n gwybod ych Beibl mi faswn i yn cael pregethu yn fyrrach o'r hanner." Pan ddelo at ei fater nid yw'n amcanu at na chywreinrwydd cynllun na phennau celfydd. Ni welir byth mohono'n ymrwyfo'n afreolus yn y pulpud, prin y gwelir ef yn wir yn symud o'i unfan. Y mae'r ychydig arwydd o gyffro yn nhafliad ei law, a rhyw dafliad sydyn, go ddiniwed, ydyw hwnnwrhyw ysgydwad disymwth o'r penelin i'r llaw.dyna'r cwbl. Y mae yma ryw angerdd—rhyw ysgwyd yn ei unfan—er hynny, oblegid gwelwch fel y mae'n chwysu. Ni phregethodd odid neb fwy trwy chwys ei wyneb nag a ddarfu i David Williams. Pan fo cynulleidfa lawn, fe'i gwelir yn ffrydio i lawr ac yn peri i'r goler am ei wddf golli ei lliw a'i ffurf gynhenid. Yn amlach na pheidio, fe gwyna ei bod hi'n boeth iawn, a galw am agor tipyn ar y ffenestri gan ychwanegu "Pe taswn i'n pregethu mewn potel, fe fuasai'n rhaid i rai o honoch chi gael rhoi corcyn arni."

Eir ymlaen bellach a'r llais yn clirio, gan ddyfod allan yn rhwyddach. "Nid nodwedd y gornant wyllt sydd i'w areithyddiaeth, ond ymlifiad ymlaen